Mae Propel Cymru yn symudiad llawr gwlad sy'n ymgyrchu dros sofraniaeth unigol, gymunedol a chenedlaethol i Gymru.

Rydym yn sefydliad annibynnol o aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru – the Party of Wales.

Rydym yn gweithio mewn cymunedau ar draws y wlad i fynd i'r afael â llygredd, ail-ddiwydiannu Cymru ar gyfer yr 21ain Ganrif, i gyrraedd pawb sydd wedi cael eu gadael i lawr a'u gadael ar ôl gan y sefydliad gwleidyddol yng Nghymru, ac i ddarparu Cymru unedig ac i ethol llywodraeth Plaid Cymru.

  • Y diweddaraf o'r blog

    Mae’n hen bryd i Gymru gael tipyn o barch

    Neil McEvoy Mae’n hen bryd i Gymru gael tipyn o barch

    Mae’r ystadegau tlodi am Gymru yn sobreiddiol i’w darllen. Mae 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, a chodi y mae’r ffigwr. Mae 1 o bob 5 o bensiynwyr yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac y mae wedi codi yn y 4 cyfnod diwethaf. Gwaetha’r modd, mae 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Os ydych eisiau ystadegau Llywodraeth Cymru, maent yma.

    Bu tlodi yn broblem yng Nghymru a’r DG ers canrifoedd. Ond yr hyn sy’n wahanol yn awr yw nad yw dulliau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i drin y tlodion ‘diangen’ yn bodoli bellach.

    Parhau i ddarllen

    Mae ar y genedl hon wir angen newid

    Neil McEvoy - Mae ar y genedl hon wir angen newid

    Mae’r ddadl am arweinyddiaeth Blaid bellach yn ei hanterth a’r agwedd fwyaf cadarnhaol hyd yma yw bod annibyniaeth Cymru yn cael ei grybwyll eto.

    Dros y chwe blynedd a aeth heibio, nid fu llawer o sôn amdano. Yr oedd gan arweinydd y Blaid fwy o ddiddordeb yn yr hyn a alwyd gan Jonathan Edwards yn ‘faterion niche’ yn hytrach na sofraniaeth Gymreig.

    Bu’r gwrthod cenedlaetholdeb Cymreig hwn gan y Blaid yn gefnu ar gyfrifoldeb i’n cenedl, ac ni ddylai barhau. Rhaid i ni fod yn onest gyda phobl am ein nod i Gymru.

    Parhau i ddarllen

  • Cyswllt

    Cysylltu

    E-bost: post@propel.cymru

    Cyfeiriad: Propel Cymru, The Maltings, East Tyndall Street, Caerdydd, CF24 5EA