Mae Propel wedi condemnio cymorthdaliadau gan Gyngor Caerdydd i ysgolion preifat i ariannu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gyda chyfanswm syfrdanol o £10,462,880.85 yn cael ei ddyrannu y llynedd.
Mae'r blaid wedi galw am ailasesiad brys o flaenoriaethau gwariant, gan ddadlau bod yr arian yn cael ei sianelu i "ddarpariaeth amhriodol" tra bod system addysg y wladwriaeth, yn enwedig ar gyfer ADY, "mewn argyfwng".
Dywedodd Arweinydd Propel, y Cynghorydd Neil McEvoy:
"Mae'n rhyfeddol bod cynghorwyr Llafur Caerdydd yn rhoi cymorthdaliadau i ysgolion preifat hyd at £10 miliwn y flwyddyn. Rwy'n ofni meddwl beth fydd ffigurau'r flwyddyn nesaf."
"Mae'n ymddangos bod y sector Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd mewn argyfwng. Mae plant yn cael eu gorfodi i leoliadau prif ffrwd heb gefnogaeth briodol. Mae'r ddarpariaeth ar-lein yn wael iawn ac mae'n ymddangos nad yw'n ddim mwy na ymarfer ticio blychau. Ym mhrifddinas Cymru, rydym hyd yn oed yn y sefyllfa lle mae rhai disgyblion yn cael eu hatal rhag dysgu'r iaith Gymraeg."
“Does dim synnwyr i daflu £10 miliwn y flwyddyn i ysgolion preifat, mewn rhai achosion, sy’n gwbl amhriodol, tra bod y sector gwladol mewn diffyg cyllidebol. Mae’r sefyllfa’n gwbl annerbyniol i ddisgyblion, rhieni a threthdalwyr y ddinas hon. Mae angen datrys y mater hwn ar frys.
“Problem fawr hefyd yw'r ffaith bod disgyblion ag anghenion ychwanegol yn cael eu gorfodi i ysgolion cyfrwng Saesneg ym Mhrifddinas Cymru. Mae angen buddsoddiad sylweddol yn y sector cyfrwng Cymraeg, sydd hyd yma wedi'i dan-ariannu'n ddifrifol. Mae angen darpariaeth deg ar draws ein dinas er mwyn caniatáu i bob plentyn gael mynediad cyfartal at eu hiaith a'u treftadaeth. Mae cymaint o’i le gyda’r system bresennol.”
Mae Propel yn galw am fuddsoddiad ar unwaith mewn darpariaeth arbenigol leol, gydag ysgol ADY newydd yn cael ei sefydlu gan y cyngor yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd Neil McEvoy,
“Rydym wedi galw cyfarfod cyhoeddus nos Fercher nesaf yr 11eg o Fehefin am 7yh yng Nghlwb y Libs yn Nheganna. Mae rhieni’n dweud wrthyf eu bod yn cael eu hanwybyddu. Rydym am roi llwyfan iddynt a chyfle i siarad ag un llais. Rhaid gwneud rhywbeth.”
Mae Propel yn credu y byddai ailfuddsoddi'r £10 miliwn sy'n cael ei golli i'r sector preifat ar hyn o bryd nid yn unig yn gwella canlyniadau addysgol ond hefyd yn adfer tegwch, tryloywder ac ymddiriedaeth yn y ffordd y mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio.
DIWEDD
Dangos 1 ymateb