DEWIS NEIL MCEVOY FEL PRIF DDARPAR YMGEISYDD PROPEL AR GYFER SEDD CAERDYDD PENARTH YN ETHOLIADAU’R SENEDD 2026

Mewn cyfarfod gorlawn yn nhafarn y Fairwater, yn y Tyllgoed, lle mae’n gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Caerdydd, dewiswyd Neil McEvoy yn unfrydol fel prif ymgeisydd Propel i sefyll dros sedd newydd Caerdydd Penarth yn etholiadau’r Senedd fis Mai nesaf.

Derbyniodd y cyfarfod agored, a fynychwyd gan aelodau Propel a’r cyhoedd, araith angerddol a di-ildio gan Neil McEvoy, Arweinydd Propel, yn egluro pam ei fod yn sefyll, a pham fod Propel yn arwain yr ymgyrch dros Gymru rydd a llewyrchus. Cafwyd cwestiynau o’r llawr ar gyflwr gwleidyddiaeth Cymru, ynghyd â phryderon pobl leol.

Meddai Neil McEvoy, “Dyma fy nghartref. Dyma lle cefais fy ngeni a’m magu, a lle rwy’n byw gyda fy nheulu. Rwy’n adnabod ein strydoedd. Rwy’n adnabod ein cymunedau. Wrth galon yr ymgyrch hon y mae pob teulu yng Nghaerdydd Penarth sydd eisiau cartref teilwng, ysgol dda, cymuned ddiogel, a chyfle teg. Mae pobl Cymru wedi cael digon. Mae’n hen bryd adennill ein sefydliad democrataidd cenedlaethol er lles y bobl a dychwelyd grym y bobl i’n Senedd ym Mae Caerdydd.”

Ychwanegodd, “Mae gafael Llafur dros ein gwlad ers dechrau datganoli – gyda chefnogaeth Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol – ar ben. Daeth yr amser i roi diwedd ar oruchafiaeth Llafur, ar y llygredd, y gwastraff a’r camreolaeth. Mae’n amser ymgysylltu â’n cymunedau sydd wedi eu hanwybyddu a’u gadael ar ôl. Mae arnom angen llais cryf, diwyro yn y Senedd, a fi fydd y llais hwnnw.”

Yn ei araith, amlinellodd McEvoy hefyd bolisïau Propel ar annibyniaeth ynni, yr economi, a democratiaeth uniongyrchol, gan bwysleisio y gall Cymru wneud pethau’n wahanol.

Ychwanegodd, “Mae gweledigaeth Propel yn feiddgar — gallwn drawsnewid ein gwlad gyda pholisïau sy’n rhoi pobl wrth galon agenda’r llywodraeth. Dyma’n cyfle i adennill ein Senedd i’r bobl ac adeiladu Cymru sy’n gweithio i bawb.”

Amlinellodd McEvoy hefyd ei addewidion personol:

· Cynnal Ymchwiliad y Bobl i Wasanaethau Plant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.
· Cynnal Ymchwiliad y Bobl i’r mwd niwclear a gafodd ei ollwng oddi ar arfordir Caerdydd a Phenarth.
· Ymgyrchu dros Ddeddf Robbie: gosod dyletswydd cyfreithiol unigol ar swyddogion cyhoeddus i arddel gonestrwydd.
· Darparu gofod diogel yn y gymuned lle gall pawb rannu eu pryderon, ceisio cymorth, a theimlo eu bod yn cael eu clywed.

“Dyma ymrwymiadau sy’n rhoi pobl yn gyntaf — gwerthoedd y mae Propel yn sefyll drostynt. Fel gwleidydd, rwy’n wahanol i’r gweddill, ac nid wyf yn gwleidydda fel pawb arall; nawr mae’n bryd rhoi pobl wrth ganol gwleidyddiaeth Cymru.”

DIWEDD

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2025-09-29 12:59:35 +0100