Mae’n hen bryd i Gymru gael tipyn o barch

Neil McEvoy Mae’n hen bryd i Gymru gael tipyn o barch

Mae’r ystadegau tlodi am Gymru yn sobreiddiol i’w darllen. Mae 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, a chodi y mae’r ffigwr. Mae 1 o bob 5 o bensiynwyr yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac y mae wedi codi yn y 4 cyfnod diwethaf. Gwaetha’r modd, mae 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Os ydych eisiau ystadegau Llywodraeth Cymru, maent yma.

Bu tlodi yn broblem yng Nghymru a’r DG ers canrifoedd. Ond yr hyn sy’n wahanol yn awr yw nad yw dulliau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i drin y tlodion ‘diangen’ yn bodoli bellach.

Arferai’r élite Prydeinig feddu ar drefedigaethau oedd angen poblogaeth. Ar waethaf ail-ysgrifennu hanes ar batrwm Disney yn UDA, i gynnwys pererinion egwyddorol a stori amheus Pocahontas, tlodion Prydain a yrrwyd i ffwrdd i’r trefedigaethau i greu cyfoeth i fuddsoddwyr Lloegr.

Cyn i gaethwasiaeth Affricanaidd dra-arglwyddiaethu, byddent yn cyrraedd America fel gweision dan indentur. Nid caethwasiaeth yn union oedd hyn, ond yr oedd yn eithaf tebyg iddo, gyda disgwyl i wragedd a phlant ysgwyddo dyledion unrhyw was dan indentur oedd yn un o’r lluoedd fu farw’n gynnar yn y drefedigaeth newydd. Byddai llawer o dlodion, gan gynnwys plant, yn cael eu halltudio am y troseddau mwyaf distadl. Cafodd Elizabeth Armstrong, a adwaenid fel Little Bess, ei thrawsgludo yn naw oed oherwydd honiad iddi ddwyn dwy lwy.

Yr oedd yr un peth yn wir am Awstralia, lle gellid anfon ‘troseddwyr’ yn hwylus i ben draw’r byd.

Polisi bwriadol oedd hwn. Bu dosbarth o bobl erioed a oedd, ym marn y sefydliad Seisnig, yn wehilion y dylid cael gwared ohonynt. Rwy’n defnyddio’r term hwnnw yn benodol oherwydd dyna oeddent yn cael eu galw. Ysgrifennodd John White ym 1630 yn The Planters Plea,  'Colonies ought to be Emunctories or Sinkes of States; to drayne away the filth'. Pobl oedd y ‘filth' a grybwyllai.

Galwyd hwy yn llawer o enwau dros y blynyddoedd. Gwehilion, sbwriel, ‘crackers’ (term difenwol gan bobl wynion tuag at bobl wynion dlotach). Nawr maent yn cael eu galw yn ddiseremoni yn ‘chavs’ ym Mhrydain.

A chofiwn hefyd am y rhyfeloedd, y rhagorodd Lloegr yn eu creu. Rhyfeloedd diddiwedd, lle gellid anfon miliynau o bobl i ymladd a marw. 

Llwyddodd Prydain i gael gwared â llawer trwy salwch a newyn. Yr oedd y wyrcws a’r crocbren yn wastad yn fygythiol o agos.

Ac yna roedd carcharu ar raddfa fawr. Bu hynny’n wastad yn ddull cyfleus o glirio ymaith y tlodion diangen, ac y mae’n dal yn ddewis poblogaidd iawn. Wrth gwrs, Cymru sy’n dioddef pen trymha’r baich. Rydym yn awr yn domen sbwriel i droseddwyr Lloegr, gydag “uwch-garchar” erchyll yn Wrecsam, y mwyaf i’w godi erioed yn Ewrop, sydd i dderbyn miloedd o garcharorion o Loegr, gydag un arall ar y gweill yng Nghastell Nedd Port Talbot.

Ond yr hyn sy’n rhyfeddol yw cymaint o’r dewisiadau blaenorol ar gyfer ‘delio’ â thlodion diangen Prydain sydd wedi diflannu. 

Does dim rhyfeloedd tramor i anfon pobl i ffwrdd iddynt i farw. Mae trychineb Llafur yn Irac trroi’r wlad yn erbyn ymosod ar wledydd tramor. 

Dyw Lloegr ddim yn debygol o anfon poblogaethau i unrhyw drefedigaethau yn fuan, oni fyddwch yn cyfrif pobl dlawd o Lundain yn cael eu hanfon i awdurdodau lleol rhatach, gan gynnwys rhai yng Nghymru.

Ac y mae’r gwasanaeth iechyd a banciau bwyd yno (fwy neu lai) i atal clefydau a marwolaethau oherwydd newyn fel yn y gorffennol. Rydw i’n dweud ‘fwy neu lai’ oherwydd i’r Ceidwadwyr a Llafur geisio preifateiddio.

Yn anffodus, mae carcharu ar raddfa fawr yn parhau. Gan y DU y mae’r lefel uchaf o garcharu yn yr UE, gyda bron i 100,000  o bobl dan glo. Ond dim ond hyn a hyn o bobl y mae modd eu carcharu.

Felly beth sydd ar ôl?

Gallwn barhau i gosbi’r tlodion a’u cael i fyw mewn sefyllfa o ddibyniaeth. Neu fe allwn wynebu’r tlodi a chreu cymdeithas fwy cyfartal.

Ond nid yw’n digwydd. Dyw troi a throi’r arian sy’n digwydd yn y trydydd sector  ddim yn helpu. Mae llawer o bobl ymroddedig yn y swyddi hyn, ond waeth i ni wynebu ffeithiau ddim, mewn gormod o achosion o lawer, nid yw’n ddim ond arian i’r pypedau Llafur sy’n rhedeg y sefydliadau. Wedi blynyddoedd, a’r miliynau o bunnoedd a dywalltwyd i Cymunedau’n Gyntaf, cafodd ei ganslo, heb ddim cynnydd i allu adrodd amdano. Does dim cynllun o bwys i daclo tlodi yng Nghymru erbyn hyn.

Mae angen i ni ddechrau trwy fynd i’r afael â thai. Byddaf i’n sôn llawer am dai, ond mae hynny am fy mod yn gwybod mai dyma fu prif ffon fesur statws cymdeithasol yng Nghymru. Mae pobl eisiau bod yn berchen ar eu tŷ eu hunain.

Ac y mae rheswm da dros hynny. Drwy’r amser, fe fyddaf i’n cael pobl yn fy swyddfa sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn am eu bod ar drugaredd eu hawdurdod lleol. Pan fo aelod o’r teulu’n marw, a’r denantiaeth yn ei ddwylo ef neu hi, bydd gweddill y teulu’n cael eu troi allan, os yw’r denantiaeth yn un a etifeddwyd eisoes. Felly os bydd Dad yn marw a’r denantiaeth yn cael ei basio ymlaen i Mam, yna gwneir y plant yn ddigartref gan yr awdurdod lleol. Dyw hyn ddim yn ddigon da. Mae angen i ni gael y bobl hyn i mewn i’w cartrefi eu hunain. 

Mae’r un peth yn wir am y Dreth Ystafell Wely. Efallai bod pobl wedi bod yn byw mewn tŷ cyngor ers blynyddoedd ac yn sydyn maent yn colli swm sylweddol o’u budd-dal tai oherwydd bod ganddynt ystafell wely ychwanegol. Dyw hyn ddim yn beth da. Ni ddylai pobl orfod byw fel yna a bod ar drugaredd y llywodraeth. Pobl go-iawn ydynt, nid ymarferiad arbed costau. Cymru yw’r unig genedl ddatganoledig sy’n talu’r Dreth Ystafell Wely. Am ryw reswm, mae Llafur yn dweud nad mater iddynt hwy ydyw.

Rhaid i ni ail-ddiwydiannu Cymru ar gyfer yr 21fed ganrif. Mae gennym eisoes fwy na digon o swyddi Adnoddau Dynol a thicwyr bocsys. Yr hyn sydd arnom ei angen yw swyddi ystyrlon lle mae pobl yn gwneud pethau go-iawn, pethau defnyddiol, yn hytrach na gwylio ein gweithgynhyrchu yn symud dramor.

Fe allasem fod yn adeiladu ein porthladdoedd, ein seilwaith meddal a’n gallu i weithgynhyrchu. Ond nid fel rhan o’r Deyrnas Gyfunol - honedig “Unedig” hon - sydd yn wastad yn ein hanwybyddu, lle mae llywodraeth y DG yn troi cefn ar eu haddewidion i’n cyllido dro ar ôl tro.

Dyna pam fy mod eisiau sofraniaeth Gymreig. Mae’r Cymry yn wastad wedi cael eu trin fel pobl dros ben i Loegr. Dyna pam mai ni yw rhan dlotaf y DG.

Pobl dros ben fyddwn ni o hyd iddynt hwy. Dyna fuom ni erioed. Mae hynny yn yr enw a roesant arnom ni’r Cymry - y ‘Welsh’, y dieithryn, tramorwr, yr arall. Byddwn yn wastad yn cael ei gweld fel pobl rhy anfoesol, rhy anllad ac fe fyddwn yn wastad yn siarad gormod o Gymraeg i gael ein hystyried fel dim arall. Gwnaeth Brad y Llyfrau Gleision hynny’n glir; felly hefyd y gwawd fyth ers hynny.

Mae’r un peth yn wir am yr holl genhedloedd Celtaidd. Roedd modd i’r Albanwyr Gaeleg eu hiaith gael eu lluchio oddi ar eu tir adeg clirio’r ucheldiroedd. Ac ers degawdau, gwyddai’r Gwyddelod nad oedd pwynt iddynt ymgeisio am swyddi yn Lloegr tra bod y Gwyddelod yn dioddef ymosodiadau yng ngogledd Iwerddon.

Yr hyn sy’n dorcalonnus, er hynny, yw’r modd yr ydym yn trin ein hunain. Prin y gwnaethom wrthwynebu pan ddywedodd Lloegr eu bod eisiau cadw eu troseddwyr dan glo yma. Mae ein llywodraeth ni ein hunain yng Nghymru yn fodlon i fwd o’r tu allan i adweithydd niwclear o Loegr gael ei ddympio yma. Mae ein Prif Weinidog Llafur ein hunain yn cynnig ein gwlad fel lle i gadw arfau niwclear a gwastraff niwclear.

Mae sofraniaeth yn  golygu parch. Rhaid i ni sefyll ar ein traed ein hunain a chael tipyn o hunan-barch. Ac y mae hynny’n golygu parchu pob unigolyn yn ein cenedl. Gallwn oll fod yn rhan o’r Gymru newydd na fydd yn cario baich gwladychu, ymerodraeth, carcharu ar raddfa eang nac agweddau erchyll tuag at y tlodion. Fyddwn ni ddim yn bobl dros ben i neb. O’r diwedd, gallwn ddechrau ymladd rhyfel yn erbyn tlodi, yn hytrach na’r tlodion. Gadewch i ni wneud hyn.