Grŵp Newydd Plaid Cymru yn bwrw gwreiddiau yn Llanelli

Mae mudiad gwleidyddol newydd o fewn Plaid Cymru yn cymryd ei gamau cyntaf heddiw gyda chyfarfod yng Ngwesty’r Diplomat, Llanelli (Nos Fercher, Mawrth 28ain, am 7.30).

Llefarydd y mudiad yw Neil McEvoy AC, a bydd e'n annerch ar amcanion y mudiad ac yn rhannu llwyfan gyda Gwyn Hopkins, cyn Ysgrifennydd Plaid Cymru dros Etholaeth Llanelli, bydd yn traddodi ar hanes y blaid yn yr etholaeth ac ar bwysigrwydd cyfiawnder naturiol.

Cafodd y bwriad i ffurfio’r mudiad ei gyhoeddi mewn cyfarfod ymylol yn ystod Cynhadledd Gwanwyn Plaid Cymru yn Llangollen ddydd Sadwrn diwethaf (24/03/2018). Wrth annerch ystafell oedd yn orlawn o gefnogwyr a darpar gefnogwyr o blith aelodau Plaid Cymru, meddai Neil McEvoy “Grŵp o fewn Plaid Cymru fydd ein mudiad ni, gyda’r nod o sbarduno ac atgyfnerthu ein neges a’n llwyddiant etholiadol.

Meddai Neil McEvoy “Nid ydym o’r chwith nac o’r dde, nac o’r canol corsiog; mudiad gwleidyddol Cymreig sy’n ‘tyfu o’r gwreiddiau’ ydym, er mwyn hyrwyddo amcanion Plaid Cymru. Rydym yn chwilio am sylfaenwyr o blith aelodau’r Blaid ac eraill sy’n dymuno dod atom yn Llanelli. Dwi’n falch iawn o fod wedi cael fy ngwahodd yma i rannu gyda phobl beth y credaf y gallem ei gyflawni gyda’n gilydd.”

Cynhelir cyfarfod agored i'r cyhoedd yng Ngwesty'r Diplomat, Llanelli, Mercher Mawrth 28ain, am 7.30pm

Bydd y grŵp newydd yn agored i bawb, heblaw aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru, ac fe gaiff ei enwi yn y lansiad swyddogol ddiwedd Mis Ebrill, gyda chyfarfodydd a digwyddiadau eraill yn dilyn led led Cymru.

Meddai Neil McEvoy ei fod wedi trafod gydag aelodau eraill o Blaid Cymru, a’u bod wedi cytuno ar dri egwyddor allweddol:

  • Sofraniaeth i’r unigolyn; gyda chyfiawnder naturiol, proses ddyledus a rhyddid barn yn ganolog i fywyd Cymru,
  • Sofraniaeth gymunedol; gyda hawliau cymunedau i ddylanwadu ar benderfyniadau a refferanda ar faterion fel Cynlluniau Datblygu Lleol a chynllunio yn cael eu parchu,
  • Sofraniaeth genedlaethol; gyda’r nod o gynnal refferendwm ar ‘sofraniaeth genedlaethol Cymru’ cyn gynted ag y llwyddir i gael mwyafrif yn Senedd Cymru.

Bydd y mudiad newydd hefyd yn ymgyrchu ar faterion fel mynd i'r afael â llygredd yng Nghymru, ymestyn allan i'r rhai sydd wedi cael eu gadael ar ôl gan y sefydliad gwleidyddol, creu Cymru unedig nad yw yn gosod pobl yn erbyn ei gilydd ar sail eu cefndir ac adeiladu economi newydd drwy ailddiwydiannu Cymru ar gyfer yr 21ain ganrif.