Achub Rec Trelái
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gyngor Caerdydd i roi’r gorau ar unwaith i gynlluniau i ddatblygu tai newydd a ffordd fynediad drwy Rec Trelái a’r caeau cyfagos, man gwyrdd hanfodol sydd wrth galon ein cymuned.
Mae’r Rec yn fwy na dim ond cae. Dyma lle mae cenedlaethau o drigolion Trelái wedi tyfu i fyny - yn chwarae, yn cymryd rhan mewn gemau pêl droed, ac yn gwneud ffrindiau gydol oes. Dyma galon ac enaid Trelái, lle sy’n dod â phobl ynghyd.
Cafodd cynlluniau i adeiladu ar Rec Trelái eu hatal yn llwyddiannus yn 2009. Rhaid inni wneud hynny eto - y tro hwn yn barhaol. Mae Cyngor Caerdydd wedi mabwysiadu polisi Meysydd Chwarae Cymru i ddiogelu mannau gwyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rhaid i ymrwymiad y Cyngor i warchod mannau gwyrdd gynnwys Rec Trelái yn ffurfiol yn y warchodaeth hon.
Rydym yn annog y Cyngor i amddiffyn Rec Trelái - nid ei orchuddio â choncrit. Unwaith inni ei golli, bydd wedi ei golli am byth.