Mae ar y genedl hon wir angen newid

Neil McEvoy - Mae ar y genedl hon wir angen newid

Mae’r ddadl am arweinyddiaeth Blaid bellach yn ei hanterth a’r agwedd fwyaf cadarnhaol hyd yma yw bod annibyniaeth Cymru yn cael ei grybwyll eto.

Dros y chwe blynedd a aeth heibio, nid fu llawer o sôn amdano. Yr oedd gan arweinydd y Blaid fwy o ddiddordeb yn yr hyn a alwyd gan Jonathan Edwards yn ‘faterion niche’ yn hytrach na sofraniaeth Gymreig.

Bu’r gwrthod cenedlaetholdeb Cymreig hwn gan y Blaid yn gefnu ar gyfrifoldeb i’n cenedl, ac ni ddylai barhau. Rhaid i ni fod yn onest gyda phobl am ein nod i Gymru.

Pwy bynnag fydd, bydd yn amser da i fod yn arweinydd oherwydd y gwir syml yw ei fod yn gyfnod  o gymaint o gyfle. Mae pobl Cymru mewn tymer chwyldroadol. Maent wedi pleidleisio i adael yr UE, rhoesant bleidlais uchel i UKIP yn etholiadau’r UE, ac fe wnaethant hyd yn oed chwarae â’r syniad o bleidleisio dros y Ceidwadwyr yn etholiad diwethaf y DG. Mae pleidleiswyr yn barod i drio pleidiau eraill er mwyn cael newid. Hyd yma, dyw hyn ddim wedi cynnwys y Blaid, ond gyda’r arweiniad a’r cyfeiriad iawn, mae’r cyfle yno.

Yr hyn mae’n rhaid i’r Blaid ddechrau gwneud yw cysylltu â phobl a anghofiwyd. Y miliynau o bobl yng Nghymru yw’r rhain nad ydynt yn sefyll allan oherwydd yr hyn maent yn wisgo, neu eu hoedran, eu tueddfryd rhywiol neu unrhyw  ‘niche’ arall. Hwy yw asgwrn cefn Cymru a hwy yw’r bobl y mae arnom eu hangen er mwyn rhedeg y wlad.

Mae’n amlwg i mi fod llawer o bobl Cymru wedi dechrau teimlo eu bod wedi eu hanghofio ac yn fuan wedyn, eu bod yn teimlo dan fygythiad. Nid dyna’r hyn mae ar bobl ei angen er mwyn pleidleisio i’r Blaid a phleidleisio dros ein cenedl.

Yr hyn y gall y lluoedd anghofiedig yn awr weld mor glir yw bod y sefydliad yn edrych i lawr arnyn nhw ac yn gweithio yn eu herbyn. Dyma Hillary Clinton yn cyfeirio at filiynau o Americaniaid fel truenus. Dyma Emily Thornberry o Lafur yn difrïo tŷ yn Rochester am fod â baneri Lloegr y tu allan iddo. Yn awr mae’r sefydliad yn wfftio pobl fel ‘gamon’, term gwarthus, hunan-atgas ar sail lliw croen pobl a diffyg ‘niche’.

Mae’r gwir gyfoethogion yn bwrw ymlaen yn ddi-hid. Fe wnaethant ddatblygu system  economaidd yn Ninas Llundain a’i sefydlu mor berffaith fe, hyd yn oed pan wnaethant chwalu’r system ariannol fyd-eang, cawsant aros yn eu swyddi a pharhau i gymryd eu bonysau enfawr. A dweud y gwir, gwnaethant fwy fyth o elw wrth i bobl gyffredin dalu am eu dyledion trwy eu trethi. 

Mae angen i’r Blaid ymwneud mwy â’r ennyd dyngedfennol hon. Mae llymder wedi ei grybwyll, ond symptom yn unig yw hwnnw; ceisio rhoi rhwymyn ar glwyf agored.

Ond lle mae’r Blaid yn wir wedi methu yw trwy gael eu cysylltu â’r sefydliad gwleidyddol cynyddol yng Nghymru. Ac y mae hynny ar adeg pan y gall pobl weld y dirmyg llwyr sydd gan y sefydliad tuag at bobl gyffredin. Dyna gryn gamp i blaid fu ond mewn llywodraeth, a hynny fel partner iau mewn clymblaid, am 4 o 93 mlynedd ei hanes. Ond dyma’r pris a dalwn am fod mor gysurus â’r blaid Lafur, sef y sefydliad Prydeinig yng Nhgymru. A does dim pwynt dweud wrth bobl na fyddwch yn taro bargen â’r Torïaid pan fo Torïaid Coch Llafur wedi bod yn gyrru Cymru i ddirywiad ers ugain mlynedd.

O ganlyniad, mae datganoli yn dechrau edrych yn union yr un fath â’r wladwriaeth Brydeinig yng Nhgymru. Mae’r de-ddwyrain yn arbennig yn ysglyfaeth i fuddsoddwyr eiddo o’r tu allan i Gymru sy’n prynu ein tai ac yna’n eu rhentu’n ôl i ni. Mae Llafur yn caniatáu i’n cefn gwlad hyfryd gael ei difetha er mwyn i ddatblygwyr tai enfawr gei orchuddio â thai drudfawr. Ac y mae fel nad yw gweddill Cymru’n bodoli; Llundain a Chaerdydd wedi ei anghofio. Lle mae arweinyddiaeth y Blaid pan fo hyn oll yn digwydd?

Rwyf wëid bod yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus gorlawn ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd dros yr wythnosau diwethaf. Mae pobl yn poeni o ddifrif am yr effaith a gaiff ar dagfeydd traffig, colli caeau gleision, diffyg cludiant cyhoeddus a lle mewn meddygfeydd.

Ond adlewyrchiad yw hyn o broblem fwy. Rwyf wedi dweud cyn hyn yng nghynadleddau’r Blaid mai trwy’r CDLl y mae’r swm mwyaf o gyfoeth sy’n cael ei dynnu allan o Gymru yn y cyfnod modern. Yng Nghaerdydd, mae llawer o’r tir yn cael ei werthu gan Iarll Plymouth. Dyna £700 miliwn fydd yn cael ei sianelu allan o’n gwlad. Ac y mae ei stad yn taflu y teulu Rees oddi ar y tir er mwyn ei gael, a hwythau’n ffermwyr a thenantiaid oedd â chytundeb i fod ar y tir am dair cenhedlaeth.

Dyma sefyllfa hollol ffiwdal: ffermwyr o denantiaid o Gymry yn cael eu troi allan fel y gall boneddigion Lloegr wneud cannoedd o filiynau o bunnoedd. Does dim pwynt cadw’r Torïaid allan pan fo hyn yn digwydd yng Nghymru Llafur. Yn y cyfamser, mae’r cwmnïau adeiladu corfforaethol yn gwneud miliynau o godi tai yng nghefn gwlad - tai na all pobl leol fyth eu fforddio.

Mae gennym ddwy wlad yn awr, yn rhanedig rhwng yr élite busnes a gwleidyddol ar y naill ochr a’r cyffredin mud ar y llall. Rhaid i ni sefyll dros y bobl hyn. Nid yw’r ail-lunio mawr a gychwynnwyd gyda’r argyfwng ariannol wedi ei orffen. Yr hyn sy’n sicr yw y bydd Cymru yn parhau i newid a bod angen i’r Blaid newid.

Fe allem fod yn pwyso go-iawn am ail-ddiwydiannu Cymru i’r 21ain ganrif i roi gwaith ystyrlon i bobl. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ni oedd y gweithwyr caletaf a’r entrepreneuriaid gorau yn y byd, a rhaid i ni ddychwelyd at hynny.

Mae lle i wleidyddiaeth hunaniaeth, gan gynnwys amddiffyn lleiafrifoedd, ond rhaid i’n hunaniaeth a’n gwerthoedd fel cenedl y Cymry gael y flaenoriaeth. Rhaid i ni siarad am y pethau sydd yn wirioneddol bwysig i’r rhan fwyaf o bobl mewn modd sy’n rhoi peth hygrededd i ni.

Tydw i ddim yn gweld arweinyddiaeth bresennol y Blaid fel y grym radical all wneud hyn. Mae’n ffitio mor dwt i’r sefydliad Cymreig. Mae cymaint o bobl y Blaid yn elwa o swigen y Bae. Maent wedi ymuno â rhengoedd apparatchiks and nomenklatura Llafur i gael hawddfyd arian y llywodraeth. Dyna sy’n gwneud y Blaid mor gyfforddus i weithio gyda Llafur, er mai hwy yw’r blaid Dorïaidd y mae’n rhaid i ni eu curo .

Yr hyn nad oes arnom ei angen yw mwy o dynnu ein sylw i gyfeiriadau eraill. Mae annibyniaeth, sofraniaeth yn ddigon radical i’r rhan fwyaf o bobl. Mae’n fater o gael pobl Cymru i wneud dewis go-iawn i wrthod y neo-ryddfrydiaeth fethedig a grëwyd gan Ddinas Llundain trwy ddweud Ie i Gymru.

Mae ar y genedl hon wir angen newid. Mae ar y blaid hon wir angen newid. Ac y mae’n hen bryd cael y gystadleuaeth hon am yr arweinyddiaeth.