Adfer Tomen Glo Bedwas

Ar hyn o bryd mae cynllun yn cael ei ystyried i “adfer” tomenni Bedwas trwy ail-gloddio’r tomenni glo gan gwmni preifat. Mae Propel, plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, yn credu fod hyn ymhell o fod er budd y cyhoedd oherwydd yr effaith andwyol, nid yn unig ar brydferthwch Cwm Sirhywi a’r ardaloedd cyfagos, ond hefyd ar yr economi leol ac iechyd ei thrigolion.

Mae Cymru'n gyfrifol am 40% o'r holl domenni glo yn y DU. Os byddwn yn caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddiosg ei gyfrifoldeb trwy roi’r gwaith i gwmni allanol mae'n gosod cynsail peryglus i weddill Cymru. Mae hwn yn Fater Cenedlaethol.

Mae Cwm Sirhywi yn safle pwysig o ran cadwraeth natur. Mae trigolion lleol wedi dod yn gyfarwydd â'i hinsawdd ficro, bydd hyn i gyd yn newid gyda’r cynnig i waredu 10 metr o wastraff ychwanegol ar dir comin.

Mae astudiaethau gan Asthma a Lung UK wedi canfod mai pobl Merthyr Tudful sydd â’r risg uchaf yng Nghymru o glefydau anadlol, o orfod mynd i’r Ysbyty, ac hyd yn oed o farwolaeth oherwydd rhyddhau sylffwr deuocsid, ocsidau nitrogen, gronynnau, carbon deuocsid, mercwri a metelau trwm eraill a achoswyd gan y gwaith adfer yno. Ai ni fydd nesaf?

Mae Propel yn angerddol dros natur a chadwraeth.

Ymunwch â ni heddiw  www.propel/join

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2024-02-21 16:32:11 +0000