DATGANIAD PROPEL

Adlewyrchir gwerthoedd y Blaid yn Natganiad Propel Cymru, cytunwyd gan weithredwyr Propel yn y Fenni, Sir Fynwy, Cymru ar y 29ain o Fedi 2018. Mae'r datganiad wedi'i addasu ar gyfer y Blaid ac mae fel a ganlyn:

DATGANIAD Propel Cymru
Yn ystod amser o newid mawr, mae’n gyfrifoldeb ar bobl Cymru i ddatgan ein hegwyddorion.

Rydym ni, fel aelodau Propel Cymru yn credu yn y canlynol:

Rhaid gwarchod sofraniaeth unigol. Dylai cyfiawnder naturiol, proses briodol a rhyddid barn fod wrth galon bywyd Cymru. Rhaid ymgorffori hawliau a rhyddid yr unigolyn a gwarchod lleiafrifoedd mewn cyfansoddiad a mesur hawliau Cymru.

Fel Cymry, rydyn ni wedi dod at ein gilydd i fyw mewn cymunedau. O'r herwydd, rhaid parchu sofraniaeth gymunedol a hawl cymunedau i ddylanwadu ar benderfyniadau. Ni ddylid gosod newidiadau mawr i'n cymunedau, yn enwedig o ran cynllunio a datblygu, yn ganolog a dylid eu cadarnhau trwy refferenda democrataidd, lleol. Rhaid i ddatganoli'r broses o wneud penderfyniadau i lefel gymunedol fod yn egwyddor llywodraeth.

Gall pob gwlad, mawr neu fach, sefyll ar ei thraed ei hunan a bod yn llwyddiannus. Ond yn fwy na hynny, mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i lywodraethu ein gwlad ein hunain. Dylai sofraniaeth genedlaethol fod yn nod trosfwaol i'n cenedl. Rhaid llywodraethu Cymru o Gymru. Er y gellir rhannu sofraniaeth, rhaid cymeradwyo unrhyw rannu sofraniaeth genedlaethol, neu gamau a fyddai'n lleihau sofraniaeth genedlaethol, trwy refferenda cenedlaethol.

Mae aelodau Propel Cymru yn credu bod economi marchnad yn cynnig y trefniant economaidd mwyaf llwyddiannus er mwyn gwireddu sofraniaeth unigol, gymunedol a chenedlaethol. Fodd bynnag, er eu bod yn ffafrio economi marchnad, mae aelodau Propel Cymru yn credu mewn marchnad gyfiawn a theg, sy’n gwasanaethu anghenion cymunedau ac amgylchedd Cymru.

Gellir cyflawni marchnad deg, pan fydd tlodi difrifol yn cael ei ddileu, llygredd yn cael ei daclo, nepotiaeth yn dod i ben, lobïwyr corfforaethol yn cael eu rheoli, arian corfforaethol yn cael ei dynnu allan o wleidyddiaeth, monopolïau'n cael eu torri i fyny neu lle mae mesurau lliniaru yn eu herbyn, lle nad yw'r wlad yn gorlwytho ei hun gyda dyled dramor, lle mae rhwyd ddiogelwch cryf i ddinasyddion a lle mae gan bawb gyfle cyfartal, i gymryd rhan yn yr economi.

Mae'n ddyletswydd ar lywodraeth i estyn allan at y rhai sydd wedi cael eu siomi a'u gadael ar ôl gan y sefydliad gwleidyddol presennol. Er mwyn creu economi gynhwysol, lle gall pobl ifanc wireddu eu potensial llawn heb orfod gadael Cymru, rhaid inni annog entrepreneuriaeth a chreu'r amodau i bobl fyw bywydau sofran. Er mwyn darparu cyflogaeth ystyrlon rhaid adeiladu Economi Newydd, trwy ail-ddiwydiannu Cymru, ar gyfer yr 21ain ganrif trwy seilwaith a thechnoleg gynaliadwy.

Er mwyn creu gwlad gynhwysol, dylid cydnabod ein hieithoedd, ein hanes a'n diwylliant cenedlaethol fel pontydd sy'n ein cysylltu ag sydd yn hysbys i bawb.

Mae aelodau Propel Cymru yn credu bod yn rhaid i ni greu Cymru unedig sy'n dathlu amrywiaeth mewn ffordd sy'n ein huno. Mae angen i ni sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael eu parchu, oherwydd ni all unrhyw un ein parchu ni nes ein bod ni'n parchu ein hunain. Byddwn yn barnu ein cynnyd a'n cryfder, ar yr undod rydyn ni'n ei greu.

YMUNWCH