Propel yn Cefnogi Cadoediad yn Gaza
Dywedodd Arweinydd Propel Neil McEvoy,
“Mae miloedd o blant wedi’u lladd yn Gaza a bydd mwy yn marw oni bai bod cadoediad ar unwaith ynghyd ag ymgyrch ddyngarol i achub bywydau.
Darllenwch fwy
Cyflwyno deiseb CHWARAE TEG i Drelái yng nghyfarfod Cyngor Caerdydd
BYDD y Cynghorydd Propel, Neil McEvoy, yn cyflwyno deiseb a gefnogir gan dros 200 o drigolion Trelái mewn cyfarfod o’r cyngor llawn a gynhelir heno [Dydd Iau 26 Hydref], yn galw ar Gyngor Caerdydd i adnewyddu’r maes chwarae ym Mharc y Felin (Pafiliwn Bowlio), ar Heol Plymouthwood ac i ganiatáu i staff gloi'r giât er diogelwch y plant yn y feithrinfa leol.
Darllenwch fwy
PARCHWCH FENYWOD A MERCHED MEDD PROPEL AR DDIWRNOD RHYNGWLADOL Y MENYWOD
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae Propel wedi amlinellu ei safbwynt ar yr angen i ddiogelu hawliau menywod a merched.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r egwyddor o fannau un rhyw, yr hawl i chwaraeon un rhyw er mwyn sicrhau tegwch a diogelwch ar bob lefel o gystadleuaeth a’r hawl i dderbyn gwasanaethau personol fel ymolchi, gwisgo, a chwnsela gan fenywod.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Llafur yng Nghymru ddatgelu cynlluniau yn ddiweddar o’u bwriad i’w gwneud yn haws i unigolyn newid eu rhyw yn gyfreithlon, yn debyg i ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar gan lywodraeth yr Alban.
Darllenwch fwy
Propel yn galw am reolau llym ar lobïo corfforaethol
Mae Propel, plaid wleidyddol newydd Cymru, wedi datgan y byddai yn gosod rheolaeth lem ar lobïo. Mae Cytundeb â Chymru Propel yn cynnwys Deddf Atebolrwydd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda rheolau ar lobïo corfforaethol yn elfen allweddol.
Golyga’r Ddeddf bydd Propel yn bwriadu:
“Deddfu bod cofrestr lobïo orfodol, sy’n golygu bydd rhaid i bob lobïwr corfforaethol gofnodi manylion ei lobïo, ei bwrpas, ei gleientiaid a faint o arian oedd ynglŷn â’r gwaith.”
Darllenwch fwy
Y cyn-löwr Jeff Gregory i ymladd sedd y Rhondda ar ran Propel
Mae’r cyn-löwr, Jeff Gregory, wedi’i ddewis gan Propel i ymladd sedd y Rhondda yn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai.
Cafodd Jeff ei eni a'i fagu yn y Rhondda ac roedd yn löwr trydedd genhedlaeth, cyn i'r Ceidwadwyr a Llafur gau y pyllau.
Wrth ymateb i gael ei ddewis fel ymgeisydd, dywedodd Jeff:
“Mae'r Rhondda yn lle unigryw – does unman arall yn y byd sy’n debyg iddo. Mae'r bobl yma yn wydn, yn gweithio'n galed ac yn falch. Ond mae’r gwleidyddion wedi siomi’r Rhondda. Ni yw’r cwm anghofiedig. Cafodd y Senedd ei chreu i wella bywydau pobl Cymru, ond mae tlodi ac amddifadedd aruthrol yma o hyd.
Darllenwch fwy
Propel yn Dewis Ymgeiswyr Rhanbarthol ar gyfer Gorllewin De Cymru
Mae Propel wedi dewis pedwar ymgeisydd i ymladd rhanbarth Gorllewin De Cymru yn etholiadau’r Senedd ar 6 Mai. Y prif ymgeisydd yw Cadeirydd Propel ac Arweinydd Grŵp Propel Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Tim Thomas.
Dr Gail John sydd yn ail ar y rhestr, gyda James Henton, myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Gastell-nedd, yn drydydd a'r ymgyrchydd cymunedol Lee Fenton yn y pedwerydd safle.
Darllenwch fwy
Cofrestru Propel yn swyddogol fel plaid wleidyddol
Mae plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, Propel, wedi’i chofrestru’n swyddogol gyda’r Comisiwn Etholiadol.
Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd ymgeiswyr y blaid yn sefyll yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai o dan faner Propel.
Darllenwch fwy
Cyhoeddi Tim Thomas yn Gadeirydd Newydd Propel
Etholwyd y Cyng. Tim Thomas yn Gadeirydd Propel, ar ôl cael ei enwebu i'r swydd gan Arweinydd Propel, Neil McEvoy.
Mae'r Cynghorydd Thomas yn olynu Gretta Marshall, a gyhoeddodd yn ôl ym mis Medi y byddai'n camu i lawr yn y flwyddyn newydd.
Darllenwch fwy
Ailenwi Plaid y Genedl Gymreig (WNP) yn Propel
O hyn ymlaen bydd y WNP yn cael ei alw'n Propel, gyda'r blaid yn dychwelyd i'w henw gwreiddiol.
Darllenwch fwy
Ymunodd Cynghorydd Plaid Cymru a Propel Cymru
Mae Cynghorydd Tim Thomas wedi gadael Plaid Cymru, ac wedi ymuno a Propel.
Darllenwch fwy