ADFER TOMENNI GLO CWM SIRHYWI: PROPEL YN GALW CYFARFOD CYMUNEDOL

Mae PROPEL, plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, wedi galw cyfarfod cymunedol sydd i’w gynnal am 6yh nos Lun 26 Chwefror yn nhafarn y Piccadilly Inn, Caerffili, mewn ymateb i anfodlonrwydd cynyddol ynghylch y bwriad i adfer tomenni glo yng Nghwm Sirhywi.

Mae ERI Reclamation, cwmni preifat o Gaint, ar hyn o bryd yn ceisio caniatâd cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer Prosiect Adfer Tomenni Bedwas, sydd â'r nod o “adfer” tomenni glo ym Medwas trwy ail-gloddio’r glo yno.

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn mynd i’r afael â nifer o bryderon gan drigolion lleol, sy'n cynnwys goblygiadau iechyd, ac amgylcheddol y cynnig, ond hefyd y ffordd yr ystyrir bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi camreoli’r broses gyfan, y diffyg tryloywder, a’r diystyrwch llwyr o etholwyr ac aelodau etholedig lleol.

Dywedodd un o drigolion Cwmfelinfach ac ymgyrchydd Propel, Ruth Sutton:

“Rwy’n poeni am yr iaith a ddefnyddir gan ERI a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n awgrymu eu bod eisoes wedi rhoi sêl bendith ar y cynlluniau, pan nad ydynt eto wedi ymateb yn llawn i’n pryderon gwirioneddol ynghylch risgiau iechyd a’r effaith ar y dirwedd.

“Yn gyntaf, gorfodwyd gwaith ailgylchu gwastraff amgylcheddol Hazrem arnom, nawr mae’r cyngor yn agor y drws i’r hyn sydd yn ei hanfod yn gloddio glo brig – dyma dystiolaeth gynyddol bod Cymoedd De Cymru yn faes dympio ar gyfer prosiectau nad oes neb eu heisiau.

“Mae astudiaethau gan Asthma a Lung UK wedi canfod bod pobl Merthyr Tudful yn wynebu’r risg uchaf yng Nghymru o glefydau anadlol, a chyfraddau marwolaeth uwch o ganlyniad uniongyrchol i ryddhau nwyon gwenwynig, a metelau trwm eraill o ganlyniad i'r gwaith adfer yno. Mae trigolion Sirhywi yn poeni: ai ni fydd nesaf?”

“Mae'n warth llwyr ei bod yn ymddangos bod CBSC wedi gwaredu adnoddau naturiol Cymreig a allai fod werth cannoedd o filiynau o bunnoedd, ac mae angen craffu manwl ar frys ar hyn. Mae nifer o opsiynau caffael amgen ar gael a allai fod o fudd i economi Cymru pe bai’r prosiect hwn yn mynd yn ei flaen.”

Ychwanegodd Arweinydd Propel, Neil McEvoy,

“Mae Propel o’r farn nad yw’r cynnig er budd y cyhoedd; yn wir mae lladrad cyfreithlon yn dod i'r meddwl.

“Mae Cymru’n gyfrifol am 40% o’r holl domenni glo yn y DU; gyda 2556 o safleoedd tomenni wedi'u hadnabod yma. Os byddwn yn caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddiosg ei gyfrifoldeb, drwy gontractio’r gwaith i gwmni allanol unwaith eto, mae'n gosod cynsail peryglus i weddill Cymru.

“Gwyddom mai elw yw prif ddiddordeb cwmnïau preifat, fel y gwelsom eisoes yn Ffos-y-fran. Mae'r broes o adfer mwynau y gellir eu hailddefnyddio werth biliynau. Mae hwn yn enghraifft amlwg o echdynnu adnoddau, a chyfoeth o Gymru, dan gochl diogelwch y cyhoedd.

“Gyda phreifateiddio gwaith adfer a sefydlogi tomenni glo, ni fydd cymunedau difreintiedig ôl-ddiwydiannol y cymoedd, heb sôn am economi ehangach Cymru, yn gweld unrhyw fudd o brosiectau o’r fath ac eto bydd yn rhaid i'r cymunedau hynny ymdopi â’r llygredd, yr aflonyddwch a’r risgiau iechyd cysylltiedig am flynyddoedd lawer.

“Mae hwn yn fater o arwyddocâd cenedlaethol. Rhaid inni wneud safiad.”

Bedwas Tip - ERI Reclamation

Information Paper (erireclamation.co.uk)

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygydd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ruth Sutton ar 07809155057 neu ebostiwch [email protected] neu [email protected] / 07974 439640

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2024-02-26 11:11:05 +0000