Arbed Arian Parod

1. Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn nodi’r:

(a) ffaith fod y syniad o gymdeithas heb arian parod yn prysur ennill ei blwyf, gyda mwy a mwy o fusnesau bellach yn gwrthod derbyn arian parod.

(b) pryderon enfawr y mae hyn yn ei godi ynghylch colli preifatrwydd ac yn y pen draw rheolaeth dros ein harferion gwario ein hunain. Byddai’n hawdd i lywodraethau a chorfforaethau fonitro ein gweithgareddau ariannol yn gyntaf ac yna eu rheoli. Bydd preifatrwydd yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.

(c) peryglon ehangach o safbwynt hacio a thwyll. Mewn cymdeithas heb arian parod, byddai ein holl wybodaeth ac adnoddau ariannol yn cael eu storio'n ddigidol yn unig. Mae hyn yn beryglus a gallai arwain at golledion ariannol trychinebus i unigolion a busnesau fel ei gilydd.

(d) tebygolrwydd y gallai hyn waethygu anghydraddoldebau presennol mewn cymdeithas. Nid oes gan bawb fynediad at systemau talu’n ddigidol, a gallai symud tuag at economi heb arian parod adael cymunedau ymylol ar ôl. Gallai hefyd effeithio’n anghymesur ar y rheini sydd heb gyfrifon banc, fel yr henoed neu’r digartref.

2. Mae arian parod yn sylfaenol i ryddid a dewis personol. Os na fyddwn yn defnyddio arian parod, byddwn yn ei golli. Mae'r ateb yn nwylo a waledi pob un ohonom. Ar hyn o bryd, rydym oll. fel prynwyr, yn meddu ar y grym i ddylanwadu ar y sefyllfa. Dylem ddefnyddio’r grym hwnnw i gefnogi busnesau sy’n defnyddio arian parod.

3. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) roi mesurau pendant ar waith i gefnogi busnesau sy’n defnyddio arian parod. Byddai gweithredu cymhellion rhagweithiol yn rhoi hwb sylweddol i ysgogi economïau lleol ac adfywio ein strydoedd mawr.

Arwyddwch y ddeiseb i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau ar fyrder i ddiogelu dewis personol, preifatrwydd ac economïau lleol.

 

Who's signing

NEWYDD DDECHRAU
1,000 llofnods

A fyddwch yn llofnodi?

Dangos 1 ymateb

  • Ceri McEvoy
    published this page 2023-02-14 14:05:43 +0000