Mae arwr bocsio Cymru a chyn-Bencampwr Pwysau Plu y byd, Steve Robinson, wedi ymuno â’r Blaid Genedlaethol.
Dywedodd Robinson, 51, a adwaenir fel ‘Sinderela’ Cymru a’r pencampwr bocsio byd du cyntaf o Gymru,
“Mae gwleidyddiaeth yn rhy bwysig i’w adael i’r gwleidyddion.
“Rwy’n falch o fy ngwreiddiau. Cymro ydw i a chefais fy magu ar yr ystâd yn Nhrelái. Mae'n peri pryder imi y dyddiau hyn bod cymaint o ganolfannau a chyfleusterau ieuenctid wedi cau. Mae angen mwy o gyfleusterau ar bobl ifanc i ddatblygu yn y ffordd iawn.
“Mae angen i ni godi ar ein traed ac ymladd dros ein cymunedau. Mae angen inni adael i'n lleisiau gael eu clywed.
Croesawodd arweinydd y Blaid Genedlaethol, Neil McEvoy AS y newyddion,
“Mae Cymru angen pencampwyr nawr yn fwy nag erioed, ac yn Steve Robinson, mae gan y Blaid Genedlaethol a Chymru hyrwyddwr go iawn yn eu cornel.”
“Mae'n gyffrous iawn bod Steve wedi dewis cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac ymuno â'r Blaid Genedlaethol.”
“Mae ei siwrnai yn symbolaidd i’r Blaid Genedlaethol. Fel gwlad, dim ond trwy dalent, gwaith caled ac ymroddiad y gallwn ni lwyddo i sicrhau gwell i’n cymunedau ac i Gymru gyfan.
“Manteisiodd Steve ar ei gyfle. Mae gan Cymru hefyd gyfle ym mis Mai ac mae’n un y dylem gydio ynddo ar bob cyfrif.
“Cefais y fraint o wylio Steve yn bocsio droeon yn ystod y 90au ac rwy’n edrych ymlaen at yr amseroedd gwych sydd o’n blaenau yn gweld Steve yn ymladd dros Gymru.
Enillodd Robinson, a oedd ar gyflog o £52 yr wythnos yn gweithio yn Debenhams, deitl pwysau plu WBO ym 1993 ar ôl cytuno i ymladd yr ornest gyda dim ond 48 awr o rybudd.
Aeth ymlaen i ddod yn un o focswyr mwyaf adnabyddus a llwyddiannus Cymru gan amddiffyn ei deitl ar saith achlysur dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner.
Mae Robinson bellach yn hyfforddwr bocsio yn ogystal ag aelod o’r Blaid Genedlaethol.