Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gyngor Caerdydd i sicrhau bod Bws Caerdydd, y cwmni bysiau sy'n eiddo i'r Cyngor, yn atal yr holl doriadau arfaethedig i wasanaethau nes bod adolygiad sylfaenol o'i weithrediadau wedi'i gynnal, mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd.
Dylai pob llwybr barhau i redeg yn y cyfamser neu gael ei adfer.
Mae’r gwasanaeth bws yn ein dinas eisoes yn annigonol, sy’n effeithio’n wael ar y rhai nad ydynt yn berchen ar gar neu’n methu â gyrru.
Mae toriadau pellach yn tanseilio ein gwasanaethau cyhoeddus bregus. Mae angen gwella gwasanaethau bysiau, nid eu torri.