CHWARAE TEG I BLANT TRELÁI: RHAID BUDDSODDI YM MHARC Y FELIN!

Bydd PROPEL, plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, yn cynnal cyfarfod cymunedol ddydd Llun 20 Mai yn Neuadd St Vincent, Mill Road, Trelái mewn ymateb i esgeulustod parhaus Cyngor Caerdydd o Barc y Felin yn Nhrelái, sy’n cynnwys man chwarae i blant sydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020.

Daw hyn mewn ymateb i alwadau gan drigolion Trelái sydd wedi bod yn gohebu â Chyngor Caerdydd ac aelodau etholedig lleol ers dros bedair blynedd i ddatrys y sefyllfa.

Bydd y cyfarfod yn mynd i’r afael â nifer o bryderon gan rieni a gofalwyr Cylch Meithrin Trelái, sydd wedi’i leoli yn hen adeilad y pafiliwn o fewn y parc, ynghyd â thrigolion lleol, ac sy’n cynnwys cyflwr truenus Parc y Felin, y diffyg offer chwarae, yn enwedig i blant iau, cyflwr adeilad yr hen bafiliwn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd un o rieni Cylch Meithrin Trelái sy’n byw gerllaw, Liam Calway:

"Fel rhieni, rydym wedi’n syfrdanu bod y sefyllfa hon yn parhau heb ei datrys. Mae yna blant a fu’n mynychu’r Cylch sydd bellach wedi symud ymlaen i addysg uwchradd, ac mae'r adeilad a'r parc yn dal i fod yn yr un cyflwr truenus.

“Rydym wedi ysgrifennu at ein cynghorwyr, wedi cyflwyno deiseb i sylw’r cyngor, ac wedi eu gwahodd i weld y parc drostynt eu hunain. Er gwaethaf ein holl ymdrechion, rydym ni, ac yn bwysicach fyth, ein plant, wedi cael ein hanwybyddu a’n gadael i lawr.”

Ychwanegodd Ruth O’Hanlon, rhiant arall sy'n byw ger Mill Park,

“Pryd fydd Cyngor Caerdydd yn gweithredu? Mae llawer o blant o Drelái, a thu hwnt, yn mynychu’r lleoliad hwn bob dydd, ar ddarn o dir nad oes posib chwarae arno pan fydd hi’n bwrw glaw, gerllaw ardal chwarae i blant sydd wedi colli ei holl offer, mewn parc sy’n llawn sbwriel, gyda chaniau nwy, baw ci, fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bla yma.

“Mae fy mhlant wedi bod yn mynychu’r lleoliad hwn ers 8 mlynedd ac nid wyf  wedi’i weld mor ddrwg â hyn. Ni fyddai hyn yn cael ei ganiatáu mewn rhannau eraill o’r ddinas, mae’n teimlo bod y rhan hon o Drelái wedi mynd yn angof.”

Ychwanegodd Arweinydd Propel, Neil McEvoy,

“Cylch Meithrin Trelái yw’r unig ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg blynyddoedd cynnar dynodedig yn Nhrelái. Mae eu gwasanaeth i’r gymuned ers dros 40 mlynedd yn amhrisiadwy, ac maent yn haeddu cefnogaeth lawn y cyngor i barhau â’u gwaith arbennig. Mae’n hen bryd buddsoddi ym Mharc y Felin er budd y gymuned gyfan.

“Mae rhywfaint o arian ar gael a allai fynd beth o’r ffordd at wella pethau, ond mae’r cyngor yn llusgo’u traed. Yr hyn sy'n fwy rhyfeddol yw bod cynghorwyr Llafur Trelái yn rhwystro ymdrechion i ganfod atebion i sefyllfa sydd heb ei datrys ers dros bedair blynedd.

“Nid yw’r Cynllun Gweithredu a gyhoeddwyd yr wythnos hon ar gyfer Trelái a Chaerau yn cynnig unrhyw ymrwymiadau i fuddsoddi mewn offer a darpariaeth chwarae ar gyfer yr ardal, sy’n anhygoel. Mae’n amhosib hawlio bod Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i blant Trelái.

“Mae gan ein plant hawl i chwarae, ac rydyn ni’n mynnu gwell na hyn. Beth felly am Gyngor Caerdydd?

DIWEDD

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2024-05-24 14:35:36 +0100