LLOFNODWCH Y DDEISEB I ADNEWYDDU MAES CHWARAE PARC Y FELIN, HEOL PLYMOUTHWOOD
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gyngor Caerdydd i ariannu’n llawn y gwaith o adnewyddu’r maes chwarae ym Mharc y Felin [Pafiliwn Bowlio] ar Heol Plymouthwood.
Mae'r parc wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers mis Mawrth 2020, ac ers hynny wedi troi’n darged ar gyfer fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ychydig iawn o barciau chwarae sydd ar gael yn Nhrelái, a Pharc y Felin yw’r unig ddarpariaeth sydd o fewn pellter cerdded rhesymol i blant yr ardal hon.
Rydym yn mynnu bod y Cyngor yn gweithredu ar unwaith i ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i blant Trelái, fel y cynigir i eraill ar draws y ddinas.
Mae plant Trelái, fel holl blant y ddinas, yn haeddu chwarae teg a chyfleodd cydradd.