LLOFNODWCH Y DDEISEB: CHWARAE TEG I'R TYLLGOED A PHENTREBAEN
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gyngor Caerdydd i ariannu’r gwaith o adnewyddu’r ardaloedd chwarae yn y Tyllgoed a Phentrebaen.
Mae esgeulustod parhaus Cyngor Caerdydd o feysydd chwarae ein hardal yn dangos bod rhai ardaloedd yn fwy cyfartal nag eraill yn ein dinas.
Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae, a dylai pob plentyn yng Nghaerdydd gael mynediad i ddarpariaeth chwarae o safon uchel yn eu cymuned leol.
Rydym yn mynnu bod y Cyngor yn cymryd camau brys i ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i blant y Tyllgoed a Phentrebaen, fel y cynigir i eraill ar draws y ddinas.
Mae plant y Tyllgoed a Phentrebaen, fel holl blant y ddinas, yn haeddu chwarae teg a chyfleoedd cyfartal.