Cyflwyno deiseb CHWARAE TEG i Drelái yng nghyfarfod Cyngor Caerdydd

BYDD y Cynghorydd Propel, Neil McEvoy, yn cyflwyno deiseb a gefnogir gan dros 200 o drigolion Trelái mewn cyfarfod o’r cyngor llawn a gynhelir heno [Dydd Iau 26 Hydref], yn galw ar Gyngor Caerdydd i adnewyddu’r maes chwarae ym Mharc y Felin (Pafiliwn Bowlio), ar Heol Plymouthwood ac i ganiatáu i staff gloi'r giât er diogelwch y plant yn y feithrinfa leol.

Mae'r parc, sydd wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers mis Mawrth 2020, wedi troi’n darged ar gyfer fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enghraifft amlwg o’r esgeulustod a’r diffyg buddsoddiad yn Nhrelái ers cenedlaethau.

Mae’r ddeiseb yn galw ar y Cyngor a arweinir gan Lafur i gymryd camau brys i ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i blant Trelái, fel sydd ar gael i eraill ledled y ddinas.

Dywedodd Maggie Allen, un o drigolion Trelái sy’n byw ger Parc y Felin,

“Mae cyflwr y parc yn warthus; mae wedi mynd â'i ben iddo ac hefyd erbyn hyn mae'n ganolbwynt i ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus. Ychydig iawn o feysydd chwarae sydd yn Nhrelái, a Pharc y Felin yw’r unig un o fewn pellter cerdded rhesymol. Dylai plant yr ardal fedru defnyddio'r parc, ni ddylai fod dan glo ac yn y fath gyflwr. Mae'n bryd i Lafur ailagor Parc y Felin a gadael i'n plant chwarae!"

Ychwanegodd Neil McEvoy, Arweinydd Propel,

“Mae’r Cyngor Llafur Caerdydd hwn yn hyrwyddo ei hun fel Dinas sy’n Gyfeillgar i Blant: dinas gyda phlant a phobl ifanc yn ganolog iddi. O ran maes chwarae Parc y Felin, ni allai hyn fod ymhellach o’r gwir.

“Mae Erthygl 31 Siarter y Cenhedloedd Unedig yn datgan bod gan bob plentyn yr hawl i chwarae: byddwn yn gofyn, ble gall y plant sy’n byw yn y rhan hon o Drelái chwarae? Maen nhw, fel pob plentyn yng Nghaerdydd, yn haeddu chwarae teg a chyfleoedd cyfartal.

"Mae cyflwr truenus Parc y Felin ar hyn o bryd yn anfon neges glir iawn nad yw Llafur yn poeni am Drelái. Mae Trelái wir yn haeddu gwell."

Dangos 1 ymateb

  • Ceri McEvoy
    published this page in Blog 2023-10-31 12:29:30 +0000