Mae Propel yn credu bod gwahardd pobl rhag symud i ymladd Coronafirws yn bolisi aneffeithiol ac yn anhrugarog.
Rydym yn ymgyrchu i roi diwedd ar y cyfnodau clo ac i Gymru beidio â dychwelyd atynt.
NiD YW CYFNODAU CLO YN GWEITHIO
Mae dadl enfawr ynghylch a yw'r cyfyngiadau'n gweithio mewn gwirionedd. Mae asesiadau risg Llywodraeth Lafur Cymru ei hun wedi dod i’r casgliad y bydd y cyfyngiadau eithafol hyn dim ond yn cael effaith fach i gymedrol ar ledaenu’r firws, er mai dim ond hyder isel sydd ganddynt yn y rhan fwyaf o’u rhagfynegiadau.
MAE CYFNODAU CLO YN ACHOSI DIODDEFAINT DIANGEN
Ond credir yn weddol sicr y bydd cyfnodau clo yn cael effaith andwyol iawn ar fusnesau, gan arwain at sgil-effeithiau niweidiol am genhedlaeth trwy incwm is, diweithdra, iechyd gwael a marwolaethau. Effeithir ar iechyd meddwl a chorfforol. Bydd cam-drin cyffuriau, alcohol a thrais domestig yn cynyddu. Bydd ystod o gamweddau yn erbyn plant, gan gynnwys cynnydd mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan arwain at broblemau trawma ac ymlyniad. Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef yw’r rheiny sydd eisoes yn dlawd, ein lleiafrifoedd ethnig a phlant difreintiedig.
MAE CYFNODAU CLO YN EITHAFOL
Mae cymaint ohonom yn dal i ddioddef o'r cyfyngiadau mwyaf hirfaith a llym ar ein rhyddid, ein symudiadau a'n cysylltiadau cymdeithasol a welwyd erioed mewn hanes.
GALLWN YMLADD Y FIRWS HEB GYFNODAU CLO
Y peth pwysig nawr yw ymladd y firws mewn ffordd synhwyrol. Nid gwneud dim, ond defnyddio mesurau fel pellhau cymdeithasol, hylendid da a chysgodi'r bregus, sydd yr un mor effeithiol wrth gyfyngu ar farwolaethau ond heb beri marwolaethau diangen hefyd.
Os ydych chi am ddod â chyfnodau clo Cymru i ben, achub bywydau ac adfer rhyddid, ychwanegwch eich enw isod.