DIOGELWCH AR Y FFYRDD YN Y TYLLGOED. LLOFNODWCH Y DDEISEB.
Rydym ni, sy’n llofnodi’r ddeiseb yma, yn galw ar Gyngor Caerdydd a'r Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd, i osod camerâu cyflymder ar Heol Bwlch, Gorse Place, Heol Pentrebaen, Heol Sain Ffagan ac ar ffyrdd eraill yn y Tyllgoed lle mae cerbydau yn goryrru ar hyn o bryd.
Mae bywydau plant, cerddwyr a beicwyr dan fygythiad o ganlyniad i hyn. Rydym hefyd yn galw ar Gyngor Caerdydd i osod y cyfyngiadau cyflymder ugain milltir a addawyd ers peth amser ar ffyrdd ledled y Tyllgoed.