Mae Cynghorydd o Wynedd, sy'n cynrychioli ward Gogledd Pwllheli ar Gyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd yn eistedd o hyn ymlaen fel Cynghorydd Y Blaid Genedlaethol.
Y Cynghorydd Bullard yw’r aelod etholedig diweddaraf i ymuno â’r blaid ar ôl i’r Cynghorydd Martyn Peters ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot ymuno, yn ogystal â phedwar Cynghorydd ym mhrif ddinas Cymru. Mae arweinydd y blaid, Neil McEvoy hefyd yn eistedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar ran Y Blaid Genedlaethol.
Etholwyd y Cynghorydd Bullard nôl yn 2017 ar ôl trechu Cynghorydd Plaid Cymru, gan ennill 56% o'r bleidlais.
Wrth gyhoeddi ei benderfyniad, dywedodd y Cynghorydd Bullard:
“Pwllheli yw’r union fath o dref a all elwa o’r Blaid Genedlaethol. Mae'n lle gwych i fyw ond gallem fod yn gwneud cymaint mwy.
“Bob haf mae’r twristiaid yn heidio yma ond y tu hwnt i hynny, mae'n rhy hawdd anwybyddu ein tref. Ymddengys nad oes gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd fawr o ddiddordeb ynom ac mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno polisïau nad ydynt o fudd i ni.
“Mae ysgolion cymunedol lleol ledled Gwynedd wedi cau oherwydd Plaid Cymru. Ac nid yw eu Cynllun Datblygu Lleol wedi gwneud dim i ddatblygu ein hiaith. Os rhywbeth, mae wedi arwain at nifer cynyddol o dai haf yma. Mae pobl leol yn cael eu prisio allan o fod yn berchen ar gartrefi ac mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi i symud i ffwrdd.
“Mae ymateb y Cyngor i ddyfodiad y Coronafirws wedi bod yn araf, a dweud y lleiaf. Ni chyhoeddodd y Pwyllgor Trwyddedu orchmynion ar unwaith i safleoedd twristiaeth gau ac roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd mor araf i ymateb nes bod yn rhaid i bobl leol gymryd arnynt eu hunain i gadw twristiaid i ffwrdd.
“Y gwir amdani yw, nad ydi Pwllheli a Gwynedd yma er mwynhad pobl eraill yn unig. Rydym yn gymunedau balch Cymreig.
“Rydyn ni angen plaid sy’n barod i ymladd dros y bobl sy’n byw yma trwy gydol y flwyddyn. Mae arnom angen plaid na fydd yn dal yn ôl o ran amddiffyn ein buddiannau. Mae angen plaid arnom sy'n rhoi sofraniaeth gymunedol wrth wraidd yr hyn y mae'n ei wneud. Ond yn anad dim, mae angen plaid arnom sy'n cydnabod y potensial enfawr sydd gan Wynedd a Phwllheli.
“Y Blaid Genedlaethol yw’r blaid honno ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y blaid yn tyfu ac yn datblygu yng Ngwynedd.”
Dywedodd arweinydd Y Blaid Genedlaethol, Neil McEvoy:
“Rwyf wrth fy modd bod Cynghorydd o safon Dylan Bullard wedi ymuno â'n mudiad. Trechodd Gynghorydd Plaid Cymru yn 2017 ac mae wedi bod yn ymladd dros fuddianau pobl Gogledd Pwllheli byth ers hynny.
“Mae’n foi angerddol iawn gyda syniadau gwych. Gwnaeth y ffordd y safodd dros ei gymuned yn ystod y pandemig hwn argraff fawr arnaf, gan fynnu bod Cyngor Gwynedd yn gweithredu i gadw twristiaid draw.
“Gyda Dylan yn ymuno â’n tîm gallwn ddangos bod Y Blaid Genedlaethol wir yn blaid genedlaethol i Gymru. Rydyn ni nawr yn cynrychioli pobl o arfordir i arfordir ar dri awdurdod lleol ac rwy’n rhagweld y bydd mwy o hyrwyddwyr cymunedol fel Dylan yn ymuno â ni yn y dyfodol agos.”