Y cyn-löwr Jeff Gregory i ymladd sedd y Rhondda ar ran Propel

Jeff Gregory

Mae’r cyn-löwr, Jeff Gregory, wedi’i ddewis gan Propel i ymladd sedd y Rhondda yn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai.

Cafodd Jeff ei eni a'i fagu yn y Rhondda ac roedd yn löwr trydedd genhedlaeth, cyn i'r Ceidwadwyr a Llafur gau y pyllau.

Wrth ymateb i gael ei ddewis fel ymgeisydd, dywedodd Jeff:

“Mae'r Rhondda yn lle unigryw – does unman arall yn y byd sy’n debyg iddo. Mae'r bobl yma yn wydn, yn gweithio'n galed ac yn falch. Ond mae’r gwleidyddion wedi siomi’r Rhondda. Ni yw’r cwm anghofiedig. Cafodd y Senedd ei chreu i wella bywydau pobl Cymru, ond mae tlodi ac amddifadedd aruthrol yma o hyd.

"Mae cymaint o dalent yma yn y Rhondda, ac mae llawer ohono sydd heb ei gydnabod. Rydw i eisiau i'n plant wybod y gallant gyflawni unrhyw beth.

"Does gen i ddim ofn dweud beth sydd angen ei ddweud, i ofyn y cwestiynau anodd, ac i fynegi yr hyn rwy'n ei gredu. Byddaf yn sefyll dros yr hyn y mae’r Rhondda ei eisiau, nid fy agenda fy hun. Pleidleisiodd Rhondda o blaid Brecsit, ond ni chafodd hynny ei barchu gan ein gwleidyddion etholedig – doedd hynny ddim yn iawn. Ceisiodd Llafur a Phlaid Cymru atal ewyllys y bobl rhag cael ei weithredu. Pleidleisiodd Arweinydd Propel yn Senedd Cymru o blaid parchu penderfyniad pobl y Rhondda. Y bobl fydd fy mhenaethiaid.

"Mae angen pencampwyr ar Gymru a fi fydd pencampwr y Rhondda yn y Senedd. Mae'n hen bryd gweithredu, i godi llais yn erbyn tlodi, amddifadedd, a llywodraeth flinedig sydd wedi bod mewn grym yn rhy hir.

"Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni roi cyfle i bobl godi yn ôl ar eu traed trwy ddod allan o’r cyfnod clo a rhoi gwarant na fydd cyfnod clo arall o’n blaenau. Ond mae'n ymddangos bod Llafur a Phlaid Cymru eisiau i’r cyfnodau clo hyn barhau cyhyd ag y bo modd."

Mae Jeff Gregory yn aelod gweithgar o Eglwys Gymunedol Passion yn y Rhondda, wedi bod yn wirfoddolwr gyda Banc Bwyd y Rhondda ac yn gyn-Gadeirydd Clwb Bowlio Gelli Galed. Yn ei ddyddiau iau, roedd Jeff yn bêl-droediwr amatur brwd dros Llwynpia ac mae'n ddeilydd tocyn tymor i'w annwyl dîm, Adar Gleision Caerdydd.

Dywedodd Arweinydd Propel Neil McEvoy,

“Mae teulu Jeff wedi ei drwytho yn hanes y Rhondda. Fel Propel, mae Jeff yn gwbl bendant ei farn ac yn ddi-flewyn-ar-dafod. Mae cymaint o anghyfiawnder yma yng Nghymru sydd angen ei daclo ac mae'r blynyddoedd diwethaf wedi profi ymosodiadau pryderus ar ein democratiaeth. Mae ffydd Jeff yn disgleirio trwy ei weithredoedd ac mae wedi ymrwymo i ymladd dros y Cymoedd a Chymru. Jeff Gregory yw’r pencampwr lleol cryf sydd ei angen ar y Rhondda.”

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2021-04-01 09:33:38 +0100