Cynghorydd o Gastell-nedd Port Talbot yn ymuno â Phlaid Genedlaethol Cymru

Mae’r Cynghorydd Martyn Peters o Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymuno â Phlaid Genedlaethol Cymru (PGC) gan nodi bod angen “meddwl o’r newydd ar Gymru i’w symud ymlaen”.

Martyn Peters a Neil McEvoy AC

Mae'r Cynghorydd Peters yn cynrychioli ward Dyffryn ar Gyngor CNPT ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Dyffryn Clydach.

Mae dyfodiad y Cynghorydd Peters yn golygu bod gan y blaid newydd gynrychiolaeth ar ddau awdurdod lleol, gydag Aelod Cynulliad PGC hefyd yn cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru.

Welcome to the WNP Councillor Martyn Peters

Welcome to the WNP Councillor Martyn Peters, representing Dyffryn Clydach ward on Neath Port Talbot Council. The party keeps growing. https://www.wnp.wales/neath_port_talbot_councillor_joins_the_wnp Croeso i Gynghorydd Y Blaid Genedlaethol, Martyn Peters, sy'n cynrychioli ward Dyffryn Clydach ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae'r blaid yn parhau i dyfu. https://www.ybg.cymru/neath_port_talbot_councillor_joins_the_wnp

Posted by Welsh National Party - Y Blaid Genedlaethol on Wednesday, April 29, 2020

Meddai'r Cynghorydd Peters,

"Mae angen meddwl o'r newydd ar y genedl hon er mwyn ei symud ymlaen. Dyna pam rwy'n gyffrous fy mod yn ymuno â Phlaid Genedlaethol Cymru, sydd wedi ymrwymo i wneud yr hyn sy'n iawn i Gymru.

“Rwy’n credu mewn sofraniaeth unigol, gan alluogi pobl i fod yn annibynnol a chael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Rwy'n credu mewn sofraniaeth gymunedol. Mae gormod o bethau'n cael eu gorfodi ar ein cymunedau. Yn genedlaethol, rwy’n credu’n angerddol y dylai Cymru sefyll ar ei thraed ei hun.

“Rwy’n hannu o gymuned gref iawn gyda hanes balch. Mae pobl yn adnabod eu gilydd, ac yn gofalu am eu gilydd. Ac mae'r ysbryd cymunedol hwnnw'n amlwg nawr wrth i ni wynebu pandemig Coronafirws. Rwy'n gwybod y byddwn ni'n goroesi’r argyfwng hwn gyda'n gilydd, a phan wnawn ni, bydd PGC yn pwyso am Gymru well, unedig.

Dywedodd Arweinydd PGC, Neil McEvoy AC:

“Cyn gynted ag y cyfarfûm â Martyn, roeddem yn gwbl gytun. Mae ei record leol yn wych. Mae Martyn yn hyrwyddwr cymunedol, gyda record etholiadol heb ei ail. Faint o gynghorwyr yng Nghymru sy’n ennill 73% o'r bleidlais? Rydyn ni i gyd yn falch iawn ein bod wedi denu gwleidydd lleol o safon mor uchel i Blaid Genedlaethol Cymru.”