
Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiystyru cardiau adnabod digidol ar unwaith.
Mae cynlluniau adnabod digidol yn bygwth ein preifatrwydd, ein rhyddid, a’n ffordd o fyw. Mae'n agor y drws i fwy o oruchwyliaeth dorfol a mwy o reolaeth wladol nad oes ganddi le mewn cymdeithas rydd.
Cafodd cardiau adnabod eu sgubo i’r neilltu yn 2010 oherwydd gwrthwynebiad y cyhoedd — ac rydym yn eu gwrthod eto heddiw. Os cyflwynir cardiau adnabod digidol, dywedwn yn glir: ni fyddwn yn ufuddhau.
Rydym yn galw ar Lywodraeth San Steffan i barchu hawliau cenhedloedd yr ynys hon ac i wneud yr ymrwymiad canlynol: dim system adnabod genedlaethol, dim cardiau adnabod digidol, unwaith ac am byth.
