PARCHWCH FENYWOD A MERCHED MEDD PROPEL AR DDIWRNOD RHYNGWLADOL Y MENYWOD

 

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae Propel wedi amlinellu ei safbwynt ar yr angen i ddiogelu hawliau menywod a merched.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r egwyddor o fannau un rhyw, yr hawl i chwaraeon un rhyw er mwyn sicrhau tegwch a diogelwch ar bob lefel o gystadleuaeth a’r hawl i dderbyn gwasanaethau personol fel ymolchi, gwisgo, a chwnsela gan fenywod.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Llafur yng Nghymru ddatgelu cynlluniau yn ddiweddar o’u bwriad i’w gwneud yn haws i unigolyn newid eu rhyw yn gyfreithlon, yn debyg i ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar gan lywodraeth yr Alban.

Dywedodd arweinydd Propel, Neil McEvoy:

“Ar y mater hwn, mae safbwynt Propel yn gwbl glir: rhaid amddiffyn hawliau menywod.

“Mae cyfundrefn hunan-adnabod rhywedd sy’n bosibl dros gyfnod o fisoedd yn unig yn cynrychioli perygl i fenywod a phlant; byddai’n caniatáu mynediad i ddynion biolegol ym mhob gofod ar gyfer merched. Mae digwyddiadau diweddar yn yr Alban ynghylch carchardai menywod wedi dangos yn glir sut y gellir mynd ati i gamddefnyddio’r system. Rhaid inni sefyll i fyny ac atal Llywodraeth Lafur yng Nghymru rhag sathru ar hawliau menywod. Rhaid inni ddiogelu ystafelloedd newid, chwaraeon, carchardai a grwpiau i fenywod yn unig. Ni ddylid caniatáu dynion biolegol mewn gofodau ar gyfer menywod. Rhaid rhoi'r gorau ar ymdrechion i ddileu menywod.

“Mae’r cyhoedd yn bryderus am y mater hwn. Mae mwy a mwy o fenywod, dynion a phobl ifanc yn datgan eu gwrthwynebiad, fel y gwelwyd gan y brotest ddiweddar yn erbyn toiledau neillryw mewn ysgol uwchradd yn Aberpennar. Yr unig bobl nad ydynt i’w gweld yn gallu mesur ymateb y cyhoedd am hyn yw’r gwleidyddion sy’n trigo ym Mae Caerdydd.

“Mae Propel yn cytuno bod angen diffiniad cyson, diamwys o ryw. Beth yw dyn a dynes, dyn trawsryweddol a menyw drawsryweddol. A oes gan fenyw bidyn? A oes gan ddyn wain? Mae’n ymddangos bod y cwestiynau sylfaenol hyn yn cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth Cymru. Ni allant barhau i guddio y tu ôl i’r slogan mai “dynion yw dynion trawsryweddol; a bod menywod trawsryweddol yn fenywod”. Nid yw hyn yn ddigon da.

“Mae Llafur, Plaid Cymru, y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn cefnogi polisi o ddynion biolegol yn cystadlu â merched. Mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr ar y ffens. Mewn cyferbyniad, mae Propel yn cefnogi chwaraeon merched. Rhaid gwarchod chwaraeon merched. Bydd caniatáu i ddynion biolegol gystadlu â menywod, oherwydd eu bod yn uniaethu fel merch, yn arwain at ddinistrio chwaraeon menywod. Yn hollbwysig, pan ddaw i chwaraeon ‘corfforol’, rhaid blaenoriaethu diogelwch dros gynhwysiant.

“Mae’n ymddangos mai Propel yw’r unig blaid wleidyddol sydd â safbwynt clir ar y mater hwn.

“Rydym hefyd yn credu bod gan fenywod yr hawl i gael eu clywed heb brofi bygythiadau neu drais. Mae rhyddid i lefaru eisoes wedi erydu gormod, heb i fenywod gael eu galw i orsafoedd heddlu i ddatgan ffaith fiolegol. Mae rentamobs gwrywaidd gyda masgiau du hefyd bellach yn dod yn norm anffodus wrth geisio atal menywod rhag siarad yn gyhoeddus. Mae Propel yn sefyll gyda'n chwiorydd mewn undod. 

DIWEDD

#IWD2023 #DiwrnodRhyngwladolMenywod #PropelCymru #CymruRydd 

Nodiadau i'r Golygydd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Neil McEvoy ar [email protected] neu 07974 439640

  1. Y Polisi yn llawn:

Mae Propel yn:

  • amcanu i ddiogelu hawliau menywod a merched.
  • credu bod gan fenywod yr hawl i gael eu clywed heb brofi bygythiadau neu drais.
  • cefnogi gofod un rhyw.
  • cefnogi hawl menywod i dderbyn gwasanaethau personol fel ymolchi, gwisgo a chwnsela gan fenywod.
  • credu bod gan fenywod yr hawl i chwaraeon un rhyw er mwyn sicrhau tegwch a diogelwch ar bob lefel o gystadleuaeth.
  • credu bod gan fenywod yr hawl i drefnu eu hunain yn ôl eu dosbarth rhyw ar draws ystod o weithgareddau diwylliannol, hamdden, addysgol a gwleidyddol.

Mae Propel yn cydnabod ac yn hyrwyddo holl nodweddion gwarchodedig Deddf Cydraddoldeb 2010 sef oedran, anabledd, ailbennu rhyw, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a rhyw yn ogystal â chredoau gwleidyddol ac iaith sydd ar hyn o bryd yn disgyn y tu allan i'r Ddeddf.

   2. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (Mawrth 8) yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn annog   cymdeithas i helpu i gyflymu cydraddoldeb menywod.

 

Dangos 1 ymateb

  • Ceri McEvoy
    published this page in Blog 2023-03-08 14:35:49 +0000