Rydym ni, y trigolion, teuluoedd ac aelodau'r gymuned sydd wedi llofnodi isod, yn bryderus iawn am gyflwr presennol mynwentydd Caerdydd.
Mae'r safleoedd hyn yn rhai nodedig o ran coffa, parch a threftadaeth. Yn anffodus, mae llawer o’r beddau a'r ardaloedd cyfagos mewn cyflwr truenus oherwydd gordyfiant, llwybrau wedi torri, a diffyg cynnal a chadw cyffredinol. Mae hyn yn peri gofid i deuluoedd sy'n galaru, yn amharchus i'r rhai a gladdwyd, ac yn niweidiol i hanes y gymuned leol.
Rydym yn annog Cyngor Caerdydd i:
- Gynnal archwiliad llawn a chyhoeddi adroddiad cyhoeddus ar gyflwr mynwentydd Caerdydd.
- Dyrannu cyllid a staffio ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw y safleoedd hyn.
- Gweithredu cynllun gofal a gwella hirdymor mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol
Mae ein mynwentydd yn haeddu cael eu trin â'r urddas a'r parch sy'n ddyledus i'r rhai sy'n gorffwys yno a'r teuluoedd sy'n ymweld â nhw. Nid safleoedd claddu yn unig yw'r rhain ond tirnodau hanesyddol a mannau gwyrdd sy'n cyfoethogi cymeriad ein dinas.
Rydym yn galw ar Gyngor Caerdydd i weithredu ar unwaith i adfer, cynnal a diogelu mynwentydd Caerdydd.