Ymunodd Cynghorydd Plaid Cymru a Propel Cymru

Mae Cynghorydd Tim Thomas wedi gadael Plaid Cymru, ac wedi ymuno a Propel.

Mae Cynghorydd Tîm Thomas, sy’n cynrychioli ward Ynysawdre ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â Propel.

Mynegodd y cyn Arweinydd Grŵp, a gynrychiolodd Blaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad a San Steffan, ei rwystredigaethau ynghylch Plaid Cymru sy’n ‘cylchdroi  o amgylch swigen Bae Caerdydd. Dywedodd Cynghorydd Thomas bod Plaid Cymru wedi ‘colli’r cysylltiad â’r bobl gyffredin rwy’n cynrychioli yn Ynysawdre. '

Mewn datganiad a wnaed Cynghorydd Thomas, dywedodd, fel Arweinydd Grŵp ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ni chafodd unrhyw gyswllt o gwbl gan Blaid Cymru ar lefel genedlaethol. Dim ond cyswllt cyfyngedig efo Aelodau rhanbarthol y blaid yn y Senedd, cafodd Thomas.

Erbyn hyn, mae gan Propel wyth Cynghorydd, ym mhedwar awdurdod lleol, yn ogystal ag un aelod o'r Senedd.

Dywedodd  Cynghorydd Thomas y bore ma,

“Daeth yn amlwg i mi fod cymunedau dosbarth gweithiol, fel y gymuned dwi’n cynrychioli - a gadewch i ni fod yn onest, fel nifer o gymunedau tebyg ledled rhanbarth y De Orllewin, wedi cael eu hanwybyddu.

“Mae ymuno â Propel wedi bod fel chwa o awyr iach. Rydym yn barod i lansio polisïau y mae llawer o bobl ar stepen y drws yn siarad amdanynt.  Gweledigaeth Propel yw, i greu Cymru well, Cymru fwy dilys sy’n cynrychioli cymunedau yng Nghymru.

“Mae gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi troi braidd yn ddifflach. Credaf fod, propel Cymru yw'r llais newydd cyffrous sydd angen i aildanio gwleidyddiaeth Cymru.

Croesawodd Arweinydd Propel, Neil McEvoy, y newyddion,

“Mae'n wych gweld Cynghorydd mor weithgar â Tim, yn ymuno â Thîm Propel. Mae angen pencampwyr ar Gymru. Mae Tim yn sicr yn hyrwyddwr dros ei gymuned a thros Gymru.

“Bellach mae’r gwynt yn ein hwyliau fel plaid. Mae gennym Gynghorwyr ac aelodau talentog iawn yn ymuno yn eu cannoedd, ledled y wlad. Cynghorydd Thomas yw'r aelod diweddaraf o’n tîm rhagorol.

“Rwy’n rhagweld y bydd Propel Cymru yn croesawu mwy o gynrychiolwyr etholedig, o bob rhan o Gymru, yn ymuno â’n mudiad yn ystod y misoedd nesaf.”