Y Llywydd yn gwrthod gwelliannau ar fynd i'r afael â hiliaeth

y Llywydd Elin Jones

Mae’r Llywydd, Elin Jones, wedi ymwrthod â phedwar gwelliant i ddadl ar ddelio â hiliaeth ychydig oriau cyn bod disgwyl iddynt gael eu trafod.

Galwodd y gwelliannau am: ddiweddaru asesiadau effaith cydraddoldeb hiliol; adolygiad ar weithredu argymhellion Adolygiad Lammy yng ngharchardai Cymru; annog Llywodraeth y DU i ychwanegu modiwl ar hil a dosbarth at ymchwiliad Tŵr Grenfell; dalu sylw i'r gwahaniaethu ar sail hil a brofwyd gan y rhai fu'n dioddef oherwydd sgandal Windrush yng Nghymru, gan alw ar Lywodraeth y DU i dalu iawndal yn gynt.

Cyflwynwyd y gwelliannau gan arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, sy'n un o'r dau Aelod o Senedd Cymru sydd heb fod yn wyn.

Gweithredodd y Llywydd ar sail Rheol Sefydlog 12.23 (iii) sy’n datgan: ‘Caiff y Llywydd... gwrthod dethol gwelliant pan fydd o'r farn bod y dull priodol o gynnal busnes yn ei gwneud yn briodol gwrthod..’ Ni roddwyd unrhyw reswm pellach.

Anaml y defnyddir y Rheol Sefydlog hon gan y Llywydd.

Dywedodd Neil McEvoy MS:

“Rwy’n synnu bod y Llywydd mewn dadl ar ddelio â hiliaeth wedi dad-ddethol yr holl welliannau a gyflwynwyd gan y person cyntaf o liw a aned yng Nghymru a'i ethol i Senedd Cymru.

“Roedd y rhain yn welliannau difrifol ar faterion sy’n cael effaith wirioneddol ar bobl yng Nghymru. Gallem fod wedi bod yn pleidleisio heddiw ar fesurau i ddileu hiliaeth yn y system gyfiawnder, ar faterion hil a dosbarth yn sgîl trasiedi Grenfell, ar gyflymu iawndal i ddioddefwyr sgandal Windrush ac ar diweddaru asesiadau effaith cydraddoldeb hil. Ond oherwydd Elin Jones, ni fyddem yn pleidleisio ar unrhyw un o'r pethau hynny.

“Ni allaf bellach ystyried y driniaeth a dderbyniaf gan y Llywydd yn fater o falais personol. Mae ei dewis personol i ddiystyru gwelliannau difrifol ar ymladd hiliaeth heddiw, ar ôl i swyddogion dderbyn y gwelliannau hynny gennyf, yn fynegiant amlwg o hiliaeth.

“Yn hytrach na mynd i’r afael â hiliaeth mae’n ymddangos ei bod yn well gan Elin Jones gagio’r unig aelod nad yw’n wyn a gyflwynodd unrhyw welliannau i ddadl ar hiliaeth. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd weld y rheswm pam. Mae gennym ni broblem yn y Senedd ac mae'n bryd siarad amdani.”

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2020-10-06 17:20:55 +0100