Cyhoeddi Tim Thomas yn Gadeirydd Newydd Propel

Tim Thomas

Etholwyd y Cyng. Tim Thomas yn Gadeirydd Propel, ar ôl cael ei enwebu i'r swydd gan Arweinydd Propel, Neil McEvoy.

Mae'r Cynghorydd Thomas yn olynu Gretta Marshall, a gyhoeddodd yn ôl ym mis Medi y byddai'n camu i lawr yn y flwyddyn newydd.

Mae’r Cyng. Thomas, sy'n cynrychioli ward Ynysawdre ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn Arweinydd Grŵp Propel ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac mae'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'i wraig a'i ddwy ferch ifanc.

Mewn datganiad, dywedodd y Cyng. Thomas ei fod eisoes yn sylwi ar gynnydd yn yr aelodaeth ledled Cymru gan bobl sydd wedi'u dadrithio â'r pleidiau sefydliadol. Amlinellodd ei amcanion, sy’n cynnwys datblygu cyfres o bolisïau cyffrous a chefnogi llwyddiant yn etholiadau’r Senedd yn 2021.

“Rwy’n teimlo’n llawn cynnwrf wrth dderbyn y baton gan Gretta. Mae gennyf esgidiau mawr i'w llenwi, ond mae'n amser anhygoel o gyffrous i ymgymryd â'r her o gadeirio'r blaid wleidyddol fwyaf amrywiol, sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru” meddai'r Cyng. Thomas.

“Maes o law byddwn yn lansio cyfres o bolisïau blaengar a gwirioneddol gyffrous. Datblygir y polisïau hyn nid gan felinau trafod nac ymgynghorwyr, ond gan ein haelodau llawr gwlad - wedi eu llunio gan bobl Cymru ar gyfer pobl Cymru. Galwaf ar unrhyw un sydd wedi dadrithio gyda’r system wleidyddol bresennol i ymuno â mi i adeiladu Cymru well.”

Cadeirydd blaenorol Propel oedd y cyn-Gynghorydd Sir o Gaerdydd a gweithiwr GIG, Gretta Marshall, a ychwanegodd:

“Rwyf wedi mwynhau pob eiliad o fod yn Gadeirydd plaid mor egnïol, gan chwarae rhan sylweddol wrth helpu i lansio’r blaid. Fodd bynnag, gwnes i'r penderfyniad ychydig fisoedd yn ôl y byddwn yn sefyll i lawr i ganolbwyntio ar fy nheulu. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Tim yn llwyddiant ysgubol wrth helpu i arwain y blaid yn ystod etholiadau’r Senedd ac edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi’r blaid mewn unrhyw ffordd y gallaf. ”

Dywedodd Arweinydd Propel Neil McEvoy:

"Mae Propel yn Blaid wych, sy’n llwyddo i gynnig rhywbeth gwahanol. Hoffwn ddiolch i Gretta am ei gwaith wrth inni sefydlu’r blaid nôl yn y dyddiau cynnar. Ni allwn aros i weddnewid gwleidyddiaeth Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Cyng. Thomas i gyflawni hynny."

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2021-02-04 11:20:58 +0000