Propel yn galw am reolau llym ar lobïo corfforaethol

Image of lobbyists

Mae Propel, plaid wleidyddol newydd Cymru, wedi datgan y byddai yn gosod rheolaeth lem ar lobïo. Mae Cytundeb â Chymru Propel yn cynnwys Deddf Atebolrwydd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda rheolau ar lobïo corfforaethol yn elfen allweddol.

Golyga’r Ddeddf bydd Propel yn bwriadu:

“Deddfu bod cofrestr lobïo orfodol, sy’n golygu bydd rhaid i bob lobïwr corfforaethol gofnodi manylion ei lobïo, ei bwrpas, ei gleientiaid a faint o arian oedd ynglŷn â’r gwaith.”

Lobïo corfforaethol yw pan fo cleientiaid yn talu lobïwyr i ddylanwadu ar wleidyddion a deddfwriaeth ar ran cleientiaid. Mae cwmnïau lobïo o Gymru wedi bod yn rhan o sgandalau diweddar yng Nghymru.

Yn 2017 cyfaddefodd Ofcom, rheoleiddiwr cystadleuaeth, iddo dorri ei reolau ei hun trwy ddyfarnu contract i gwmni lobïo heb ganiatáu i gwmnïau eraill gynnig am y contract. Roedd dau gyfarwyddwr y cwmni dan sylw yn eistedd ar Fwrdd Cynghori Ofcom ar gyfer Cymru. Terfynwyd y contract ar ôl cwyn gan Arweinydd Propel, Neil McEvoy.

Daeth cwestiynau difrifol i’r golwg hefyd ynglŷn â rôl Deryn, cwmni lobïo o Gymru, yn achos diswyddo Carl Sargeant. Er tristwch, cymerodd Carl Sargeant ei fywyd ei hun yn dilyn hyn. Yn y Senedd, honnodd Andrew RT Davies Arweinydd Ceidwadwyr Cymru, fod Deryn yn gwybod am ddiswyddo Carl Sargeant cyn iddo ddigwydd a’u bod yn barod wed rhoi gwybod i newyddiadurwyr.

Arweiniodd y sgandal at ymddiswyddiad y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones.

Cafodd ymchwiliad annibynnol i sut yr ymdriniodd ef â’r diswyddo ei roi o’r neilltu’n ddiweddarach gan Lywodraeth Cymru, ac a aeth ymlaen wedyn i dalu costau cyfreithiol teulu Sargeant o bwrs y wlad, wedi i’r teulu herio fformat yr ymholiad.

Canlyniad ymchwiliad arall i sut y datgelwyd diswyddo Carl Sargeant oedd, yn y pen draw, adroddiad gyda llai na thudalen o wybodaeth. Er gwaethaf ymdrechion Arweinydd Propel, Neil McEvoy i orfodi pleidlais yn y Senedd, unodd Llafur a Phlaid Cymru ar y Pwyllgor Busnes i rwystro ei ymdrechion. Byddai pleidlais wedi rhyddhau'r adroddiad llawn gyda’r holl fanylion a gofnodwyd, tra’n cuddio enwau i gadw unigolion yn anhysbys.

Yn ogystal, pleidleisiodd Llafur a Phlaid Cymru nes ymlaen yn erbyn cyflwyno cofrestr lobïo yng Nghymru, er bod gan seneddau Caeredin a Llundain gofrestrau o'r fath.

Dywedodd Arweinydd Propel, Neil McEvoy:

“Mae lobïo dilyffethair yn ganser wrth wraidd bywyd cyhoeddus Cymru. Rhaid i'n Senedd buro Bae Caerdydd. Mae gormod yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig. Mae criw dethol o bobl wedi herwgipio datganoli ac yn ei sugno’n hesb. Rhaid mynd i'r afael â hyn.

"Mae'n ddadlennol bod Llafur a Phlaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cofrestr lobïo. Mae'n rhaid gofyn pam? Pan fydd aelodau dylanwadol pleidiau gwleidyddol, neu eu cleientiaid, yn elwa o gytundebau Llywodraeth, yn sicr fe ddylai hyn gael ei ddatgelu.   

"Rhaid i ni wybod pwy yw'r lobïwyr hyn, faint o arian sydd ynglŷn â’r gwaith a beth yw eu diben. Mae'r diwydiant lobïo wedi cael llonydd i blismona ei hun, a'r canlyniad fu sgandal ar ôl sgandal, sydd wedi dwyn anfri ar ein Senedd.

Dywedodd Jeff Gregory, ymgeisydd Propel yn y Rhondda:

“Nod Propel yw i daclo buddion breintiedig. Rydyn ni am gael Senedd i'r bobl. Mae £17 biliwn yn llifo trwy Fae Caerdydd bob blwyddyn a rhaid i ni ei archwilio’n fwy trylwyr. Rydw i eisiau Senedd y gallaf i ymfalchïo ynddi, ac felly rhaid rheoli lobïo.”

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2021-04-09 11:25:30 +0100