Mae'r Cynghorydd Tim Thomas yn cynrychioli ward Ynysawdre yn Etholaeth Ogwr. Mae Tim yn gweithio fel Swyddog Polisi Tai a chyn hynny roedd yn Gadeirydd yr ymgyrch amlbleidiol 'Ie i Bwerau Deddfu Pellach' yn etholaethau Ogwr a Phen-y-bont.
https://youtu.be/PSMIhN4Xz0g
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Thomas:
"Rwy'n falch iawn bod aelodau wedi rhoi eu ffydd ynof a hynny o ystyried cryfder y rhestr ymgeiswyr. Mae gennym dîm ymgyrchu unedig o bob rhan o'r rhanbarth, gyda sgiliau unigryw ac amrywiol.
"Mae angen pencampwyr ar Gymru nad ydyn nhw'n gwneud gwleidyddiaeth fel arfer. Rydyn ni'n sefyll yn yr etholiad hwn i roi ein cymunedau yn gyntaf. Byddwn ni'n cyflwyno ein polisïau cadarnhaol o gyfiawnder tai, annibyniaeth ynni i Gymru, rhoi democratiaeth uniongyrchol fodern ar waith, sicrhau atebolrwydd o ran gwasanaeth cyhoeddus, rhoi plant cyn elw mewn cartrefi gofal a dod â chyfnodau clo yng Nghymru i ben.
"Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at yr etholiad a'r cyfle i ddod â newid sydd mawr ei angen ar Gymru."
Ers y cyfarfod, mae’r ymgeiswyr dan arweiniad y Cyng. Thomas, wedi cyfarfod â thrigolion lleol yn Sgiwen yn dilyn y llifogydd, wedi cyfarfod â lesddeiliaid o Abertawe sy'n pryderu am gladin mewn eiddo preswyl uchel ac wedi bod yn ymgyrchu dros yr angen i gynnal profion annibynnol o’r DNA mewn perthynas â llofruddiaethau Clydach.