Mae Propel, plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, dan arweiniad y Cynghorydd Neil McEvoy o Gaerdydd yn anfon ei chefnogaeth ac yn cydsefyll gyda phawb sy’n mynychu’r brotest heddiw.
Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi bod yn sathru ar y diwydiant ffermio ers blynyddoedd. O’r Cynllun Ffermio ‘Cynaliadwy’ honedig i ymdrin â TB buchol, a’r gofyniad arfaethedig i bob fferm sicrhau bod o leiaf 10% o’u tir wedi’i orchuddio â choed er mwyn cael cyllid yn y dyfodol, mae ein cymunedau amaethyddol yn cael eu methu.
Mae rhai asesiadau wedi awgrymu y gallai cynlluniau’r llywodraeth arwain at o leiaf 10% o ostyngiad yn nifer y da byw a thoriad o 11% mewn llafur ar ffermydd Cymru. Byddai hyn yn drychinebus i ddiwydiant ffermio Cymru, i’n cymunedau gwledig, ac i’n gwlad.
Roedd sylwadau sarhaus diweddar y Prif Weinidog tuag at ffermwyr yn dangos ei ddiffyg parch, ei ddiffyg dealltwriaeth, a’i ddiffyg ewyllys da.
Mae ffermwyr a’u teuluoedd wedi bod yn warchodwyr ein tir ers cenedlaethau. Ffermwyr Cymru yw asgwrn cefn ein cymunedau gwledig, yr economi leol, a’r iaith Gymraeg.
Mae’n enghraifft arall o’r modd y mae Llafur wedi colli gafael ar unrhyw ddealltwriaeth o gefn gwlad. Ond sut y gellir disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford, y miliwnydd o Bontcanna, ddeall byd y ffermwr?
Mae gan Lafur ddiffyg cydnabyddiaeth bod pob fferm yn unigryw, bod eu gofynion a'u hamgylchiadau yn wahanol i'w gilydd. Nid ymarferiad gweinyddol yw dyfodol ein ffermwyr. Mae'n cydblethu â dyfodol ein gwlad.
Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn gyrru polisïau sydd wedi’u hysbrydoli gan Fforwm Economaidd y Byd ar draul ein cymunedau. Nid yw'r Agenda Sero Net, sy'n sail i'r polisïau hyn, yn ystyried diogelwch bwyd. Bydd prisiau bwyd yn codi a bydd llai ohono ar gael.
Yn lle ymosod ar y rhai sy’n cynhyrchu ein bwyd, mae Propel yn credu bod angen cefnogoi ein ffermwyr i’n symud at sefyllfa lle bydd Cymru yn wlad sy’n annibynnol o ran bwyd, dyma sy’n allweddol i gynaliadwyedd yn y dyfodol.
Pam nad ydym ni wedi gweld Llafur yn defnyddio ei grym a’i dylanwad i hybu prynu cynnyrch Cymreig, mynnu prisiau teg i ffermwyr wrth werthu i archfarchnadoedd, neu fynd i’r afael â bwyd wedi’i fewnforio heb ei reoleiddio? Lle mae nhw wedi bod yn amddiffyn yr amaethwyr, a'u buddiannau, sef ein buddiannau ni i gyd?
Y gwir amdani yw mai mudiadau fel Sustrans, eu cyfeillion yn y 3ydd sector, a lobïwyr sydd gan glust Gweinidogion Llafur.
Mae Llafur a’u galluogwyr ym Mhlaid Cymru yn caniatáu’r polisïau hyn dan gochl eu ‘Cytundeb Cydweithio’. Mae cymunedau amaethyddol Cymru yn cael eu dinistrio o ganlyniad i’w gweithredoedd hwy.
Gwyddom bod ffermwyr yn gweithio oriau eithriadol o galed, a hynny’n aml yn ddi-ddiolch, i'n bwydo ni. O ble mae Llafur yn meddwl y daw y bwyd ar ein byrddau bob dydd?
Bu ffermio yn waith caled a chorfforol erioed, ac yn awr i lawer o ffermwyr, mae’r dyfodol yn edrych yn llwm ac yn ansicr.
Nid yw Cymru yn cynhyrchu fawr ddim bellach. Ond mae cynhyrchu bwyd yn un diwydiant sydd wedi goroesi er gwaethaf popeth. O ddifrif calon, pa wlad arall fyddai'n mynd ati’n bwrpasol i ddinistrio un o'i phrif ddiwydiannau?
Mae cymaint o ddiwydiannau’n dibynnu ar ffermio, o’i golli, byddai’r effaith yn andwyol ledled Cymru. Mae gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru gynllun sy’n talu ffermwyr i adael y sector amaeth: mae’n wallgofrwydd llwyr.
Ers llawer yn rhy hir mae’r llywodraeth hon wedi tanbrisio ein ffermwyr a’u cyfraniad i’n cenedl. Mae'n hen bryd unioni hyn.
Mae Propel o blaid rhoi mwy o rym yn nwylo ein cymunedau. Pwy sy'n gwybod mwy am amaeth a natur: ffermwyr Cymru neu’r biwrocratiaid mewn siwtiau ym Mae Caerdydd?
Mae Propel yn cefnogi galwad y ffermwyr am chwarae teg: digon yw digon.
Dywedodd Arweinydd Propel Neil McEvoy,
“Yn yr 1980au gwelwyd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn ymosod ar y glowyr, gan ddinistrio un o’n diwydiannau craidd a’n cymunedau trefol. Yn y 2020au, gwelwn Lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn ymosod ar ein ffermwyr ac yn mynd ati i ddinistrio ein cymunedau amaethyddol.
“Mae Propel yn sefyll gyda ffermwyr Cymru ac rydym yn cefnogi eu safiad yn erbyn gwleidyddiaeth arddull Sofietaidd Llafur a’i galluogwyr yng Nghymru.”
Dangos 1 ymateb