Llofnodwch y ddeiseb hon i ailagor Stryd y Castell. Digon yw digon.
1. Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn nodi'r:
a) anhrefn a achosir i deithwyr o ganlyniad i gau Stryd y Castell;
b) cynnydd yn ôl troed carbon dinas Caerdydd o ganlyniad i yrrwyr yn teithio milltiroedd ychwanegol;
c) effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol yn yr ardaloedd cyfagos;
d) cwynion gan y cyhoedd a busnesau lleol.
2. Rydym yn croesawu y gall y cyhoedd nawr seiclo'n ddiogel ar hyd Stryd y Castell
3. Galwn ar Gyngor Caerdydd i:
a) ailagor Stryd y Castell cyn gynted â phosibl, gan osod lôn seiclo benodol yno i alluogi pobl i seiclo'n ddiogel.