Rhaid I Asesiad Effaith Allweddol O Fwd Niwclear Fod Yn Annibynnol

Yn dilyn cyhoeddiad gan EDF yn cadarnhau y byddant yn cynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol cyn carthu a rhyddhau gwaddod o orsaf ynni niwclear Hinkley Point, mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryderon ynghylch y ffaith na fydd y profion hynny’n annibynnol.
Dywedodd Neil McEvoy AS, Arweinydd y Blaid Genedlaethol,
“Rhaid i unrhyw asesiad fod yn annibynnol. Rhaid i wyddonwyr sydd wedi codi pryderon fod yn rhan o’r broses. Nid oes gennyf unrhyw hyder mewn unrhyw beth y mae EDF, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), na Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas â mwd niwclear Hinkley. Yr ymgyrchwyr a brofodd fod plwtoniwm wedi bod yn gollwng o Hinkley Point ers degawdau, ac eto yn 2018 caniataodd CNC i 80,000 tunnell o’r deunydd gael ei waredu yng Nghymru heb iddo gael ei brofi am blwtoniwm. Mae cymaint o gwestiynau i'w hateb. Rhaid i'r asesiad fod yn annibynnol. Nid oes unrhyw beth arall yn dderbyniol.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Read, Cadeirydd Marina Pwllheli,
“Mae Cymru gyfan eisiau sicrwydd y gellir ymddiried yn unrhyw asesiad â wneir. Os caiff y mwd ei garthu, bydd yn cael ei olchi o amgylch arfordir Cymru. Rhaid ei brofi'n drylwyr a rhaid inni gael tryloywder. Mae 780,000 tunnell o waddod yn swm enfawr i'w gloddio a’i waredu, ac ni allaf ddeall pam bod rhaid gwneud hynny yng Nghymru. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Llafur Cymru ddechrau gweithredu er lles ein buddiannau cenedlaethol. 
Dechreuodd y ffrae yn 2018, unwaith y datgelwyd bod y Llywodraeth, dan arweiniad Llafur, wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer dympio 300,000 tunnell o waddod o'r tu allan i orsaf niwclear Hinkley Point.
Nododd yr Athro Keith Barnham o Goleg Imperealaidd Llundain a Richard Bramhall o'r Ymgyrch Ymbelydredd Lefel Isel eu hofnau ynghylch unrhyw garthu pellach oddi ar arfordir Caerdydd ym mis Mai mewn trafodaeth hir gyda Neil McEvoy AS yma -