YMUNWCH Â NI AR DDYDD MAWRTH 16 MEHEFIN I ALW AM AIL-FEDDWL POLISI CYNLLUNIO YNG NGHYMRU A CHAEL GWARED AR GYNLLUNIAU DATBLYGU LLEOL.
Mae Cymru ar fin wynebu'r dirwasgiad gwaethaf mewn cof oherwydd y pandemig coronafirws a’r ymateb gwael a gafwyd i’r argyfwng gan lywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd.
Rhaid i lywodraethau ac awdurdodau lleol ail-werthuso sut maen nhw'n cyflawni eu dyletswyddau a blaenoriaethu yn seiliedig ar anghenion y bobl. Mae'n hen bryd inni ailgychwyn y sgwrs am gynllunio yng Nghymru. Rhaid mynd ati ar fyrder i atal Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) dadleuol a chyflwyno penderfyniadau cymunedol go iawn.
DYMA’R FFEITHIAU 👇🏼
⚠️ Mae degau o filoedd o dai yn cael eu hadeiladu ar ein caeau gwyrddion yng Nghymru, yn aml mewn ardaloedd na all pobl leol eu fforddio.
⚠️Mae isadeiledd gwael yn golygu bod y CDLl yn arwain at filoedd o geir ychwanegol ar y ffyrdd ac yn ychwanegu pwysau difrifol ar y seilwaith presennol, gan arwain at fwy o draffig a llygredd aer.
⚠️ Mae cynlluniau'n mynd rhagddynt er gwaethaf diffyg cefnogaeth y cyhoedd
Mae tai newydd drud sy'n cael eu hadeiladu yn prisio pobl leol allan o’r farchnad dai.
YMRWYMIAD Y BLAID GENEDLAETHOL
✔️Sofraniaeth Gymunedol
✔️Ymgyrch i Gael Gwared ar Gynlluniau Datblygu Lleol
✔️Polisi ‘tai yn gyntaf’ sy'n addas i Gymru
✔️Ymladd dros refferenda lleol a phenderfyniadau cymunedol go iawn
YMUNWCH AG ARWEINYDD Y BLAID GENEDLAETHOL, NEIL MCEVOY AS MEWN CYFARFOD CYHOEDDUS AR-LEIN I DRAFOD CAEL GWARED AR Y CYNLLUNIAU DATBLYGU LLEOL
Ni allwn gyfarfod wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o drafod a gwrando ar ein gilydd. Rydym yn awyddus i glywed gennych ac i dderbyn eich cwestiynau -
Os ydych chi am gymryd rhan yn yr ymgyrch i gael gwared ar y Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) neu am dderbyn mwy o wybodaeth, yna cymerwch ran yn ein cyfarfod ar Zoom neu gwyliwch yn fyw ar Facebook.
COFRESTRWCH NAWR ✍🏻
- June 16, 2020 at 7:00pm – 8pm
-
Y Blaid Genedlaethol