Ail Gynghorydd o Wynedd yn ymuno â'r Blaid Genedlaethol

Cynghorydd Peter Read

Mae'r Cynghorydd Peter Read, sy'n cynrychioli ward Abererch, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â‘r Blaid Genedlaethol.

Dyma’r ail Gynghorydd o Wynedd i wneud hynny, ar ôl i'r Cynghorydd Dylan Bullard ymuno â'r blaid ym mis Ebrill.

Ffurfiwyd y Blaid Genedlaethol ar ddechrau'r flwyddyn ac mae eisoes yn cynnwys saith Cynghorydd mewn tri awdurdod lleol, yn ogystal ag un aelod o'r Senedd (Senedd Cymru).

Dywedodd y Cynghorydd Read:
"Mae fy mhenderfyniad i ymuno â'r Blaid Genedlaethol yn gam cadarnhaol i ysgwyd gwleidyddiaeth yng Ngwynedd a Chymru.

"Bydd y Blaid Genedlaethol yn ceisio cyflwyno diwygiadau i Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ar y cyfle cyntaf. Mae angen i'r cynllunio fod ar raddfa ddynol, nid wedi'i anelu at ddatblygwyr mawr. Yn aml mae'n ymddangos ei bod hi'n haws i berson o'r tu allan i Gymru adeiladu tŷ yma, tra’i bod bron yn amhosib i bobl ifanc gael morgais. Ac mae angen atal tai a ddylai gartrefu teuluoedd rhag cael eu troi'n fwy fyth o dai haf. Rhaid darparu tai lleol i bobl leol.

"Mae Grŵp y Blaid Genedlaethol ar Gyngor Gwynedd hefyd yn galw am weithredu ar fyrder i atal y mewnlifiad o ymwelwyr sy’n sicr o heidio i’r ardal dros y Sulgwyn, ar ôl llacio rheoliadau yn Lloegr. Dylid rhoi cyfyngiadau ar y ffyrdd. Dylai'r rhai sy'n teithio i dai haf gael dirwy a'u hanfon adref.

"Rwy'n gredwr cryf ym mholisi'r Blaid Genedlaethol o sofraniaeth gymunedol. Dylai cymunedau benderfynu beth sy'n digwydd yn lleol. Oherwydd yr hyn y mae’r pandemig Coronafirws wedi'i ddangos inni yw bod gennym gymuned gref, falch o hyd. Profodd ein bod yn dal i fedru dibynnu ar ein gilydd ac mae wedi dod â ni'n agosach, ond mae hefyd wedi amlygu’r craciau. Ni allwn ddychwelyd i'r hen drefn ar ôl hyn.

"Ymunais â'r Blaid Genedlaethol oherwydd bod ei wleidyddiaeth yn ffres ac yn glir. Mae gan Gymru a Gwynedd botensial enfawr. Nawr mae gennym ni blaid a all gynnig gwell i Gymru."

Dywedodd Arweinydd y Blaid Genedlaethol, Neil McEvoy AS,

"Mae momentwm go iawn yn perthyn i’r Blaid Genedlaethol yn awr. Mae gennym Gynghorwyr ac aelodau yn ymuno ledled y wlad a'r Cynghorydd Read yw'r diweddaraf i ymuno â’n tîm rhagorol.

"Mae fy ngwraig yn dod o Wynedd a’i theulu yn dal i fyw yno. Mae'n lle rwy'n ei garu ond mae’n ardal sydd wedi cael ei anwybyddu yn rhy hir. Byddwn yn cyflwyno atebion wrth symud ymlaen, gan ddechrau gyda Chynllun Datblygu Lleol Gwynedd. Mae angen tai a swyddi arnom yng Ngwynedd sy'n blaenoriaethu pobl sy'n dod o Wynedd.

"Y Blaid Genedlaethol yw'r dewis amgen Cymreig go iawn yn awr. Mae consesws clyd Bae Caerdydd yn dod i ben wrth i ni roi grym yn ôl yn nwylo ein cymunedau."