Sesiwn Ddiota’r Senedd: Peidiwch â tharo’r bai ar y weinddes!

Sgandal Diota

Mae Neil McEvoy, Arweinydd Propel, wedi gweld dogfennau sy’n dangos y gallai aelod iau o staff y Senedd gael ei ddal yn atebol am y sesiwn yfed a fu yno cyn y Nadolig rhwng gwleidyddion Llafur a Cheidwadol hŷn, tra na fydd y gwleidyddion yn wynebu unrhyw gamau.

Bydd aelod o staff Ystafell De'r aelodau yn cael ei gyfweld o dan rybudd o dan Reoliadau Diogelu Iechyd y Cyhoedd (Cyfyngiadau Coronafirws ) Cymru 2020.

Datgelwyd ym mis Ionawr bod pedwar gwleidydd, tri AS Ceidwadol ac un AS Llafur, wedi yfed alcohol gyda’i gilydd yn Ystafell De’r Senedd ar ôl am 6yr hwyr, sef y cyrffyw ar weini alcohol.

Honnodd y Ceidwadwr Nick Ramsey iddo yfed dŵr gyda'i bryd bwyd, ond dywedwyd yn ddiweddarach iddo ymuno â'r AS Llafur Alun Davies am wydraid o win, cyn gadael tua 8pm. Ymunodd Arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies gyda Darran Miller, sef Phrif Chwip y Ceidwadwyr y pryd hwnnw â Davies. Honnir i'r triawd yfed tan oriau mân y bore ac fe'u hebryngwyd oddi ar y safle gan swyddogion diogelwch.

Rydyn ni'n credu mai'r gwleidyddion pwerus a wnaeth y deddfau sy'n gwahardd gwerthu alcohol a ddylai fod yn ateb cwestiynau.

Pam y dylid cosbi aelod iau o staff, ar gyflog o £ 10 yr awr o’r braidd, yn lle’r gwleidyddion hyn?

Llofnodwch y ddeiseb os ydych chi'n meddwl mai'r gwleidyddion, nid y weinyddes, a ddylai gael eu dwyn i gyfrif.

Who's signing

Huw Roberts

A fyddwch yn llofnodi?

Dangos 2 o ymatebion

  • Huw Roberts
    signed 2021-04-18 09:49:50 +0100
  • Propel Wales
    published this page 2021-04-16 17:04:26 +0100