Mae ffigurau newydd yn datgelu cynnydd “ysgytwol” i amseroedd aros cleifion yn ystod y pandemig

Operations postponed

Mae Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, Neil McEvoy AS, wedi galw'r ystadegau newydd am gleifion sy'n aros yng Nghymru yn rhai “ysgytwol”.

Mewn ymateb ysgrifenedig ffurfiol i Mr McEvoy, datgelodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos am driniaeth yng Nghymru wedi cynyddu o 28,294 i 119,830 rhwng Mis Mawrth 2020 a diwedd Awst, cynnydd o 324%.

Yn ardal Hywel Dda, y bwrdd iechyd gyda'r canlyniadau gwaethaf, roedd nifer y cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi codi 1,624%.
Fe brofodd bwrdd iechyd Aneurin Bevan gynnydd o 1,007%.

Mewn ymateb ysgrifenedig pellach i Mr McEvoy, datgelodd Gweinidog Iechyd Cymru fod mwy na 10,000 o lawdriniaethau wedi’u gohirio rhwng misoedd Mawrth ac Awst, ar ôl i’r Gweinidog Iechyd gyhoeddi cyfarwyddeb i’r holl fyrddau iechyd i ‘ohirio pob gweithgaredd dewisol nad yw'n fater brys, er mwyn iddynt baratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn y llwyth gwaith wrth ddelio â'r pandemig'.

Wrth ymateb i'r ffigurau dywedodd Mr McEvoy:

“Mae'r ffigurau hyn yn wirioneddol ysgytwol. Rydyn ni'n siarad am boblogaeth o faint Gwynedd nawr yn aros 36 wythnos am driniaeth. Rwy’n hynod bryderus ynghylch nifer y bobl a fydd yn colli eu hiechyd, ac o bosibl eu bywydau, nid yn uniongyrchol oherwydd COVID-19 ond oherwydd llawdriniaethau wedi’u gohirio ac amseroedd aros tu hwnt i'r cyffredin.

“Rwyf wedi siarad â chymaint o bobl na allant mwyach gael gafael ar ofal iechyd wrth i'r pandemig hwn barhau.

“Cafodd y cyhoedd eu cyfyngu mewn dull eithafol o heriol ar ddechrau’r flwyddyn er mwyn prynu mwy o amser i’r Gweinidog Iechyd atal y GIG rhag cael ei lethu. Erbyn hyn, mae’n amlwg bod polisïau Llywodraeth Cymru i atal y firws wedi methu. Y gwir syml yw bod y mwyafrif o fyrddau iechyd dan straen difrifol, tra bod triniaeth mewn eraill fel petai wedi diffygio.

“Heb unrhyw arwydd bod gobaith am frechlyn yn fuan neu'r firws yn dod i ben chwaith, mae angen i’r Gweinidog Iechyd frysio i amlinellu ffordd ymlaen fel bod llawdriniaeth a thriniaethau eraill yn gallu digwydd unwaith eto.”