Mae PGC yn galw am gynnal profion cymunedol brys o'r holl achosion Coronafirws a amheuir

Mae Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru (PGC) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â “gwastraffu” yr amser sydd ganddynt tra bod mesurau arbennig i fynd i’r afael â Coronafeirws mewn grym.

Covid 19

Dywedodd Neil McEvoy AC: “Os y byddwn yn dod allan o’r cyfnod hwn yn yr un sefyllfa ag yr aethom iddo, yna byddwn wedi gwastraffu’r amser hwnnw i raddau helaeth. Mae angen i ni ddefnyddio’r amser i gryfhau ein gallu i ddilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd a phrofi pob achos a amheuir o Coronafirws. ”

Yn ystod Cyfarfod Llawn o’r Senedd, ar y 24ain o Fawrth cyfaddefodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, nad oedd ganddyn nhw’r gallu i wneud hyn, gan nodi: “Pe bawn i’n dweud mai ein huchelgais yw cyflwyno profion cymunedol ar raddfa eang nawr, mewn gwirionedd ni fyddem yn medru gwneud hynny ... ”

Daeth ergyd arall i brofion cymunedol ar raddfa eang pan gyhoeddwyd bod cytundeb Llywodraeth Cymru â chwmni preifat am 5,000 o brofion y dydd wedi bod yn aflwyddianus.

Coronavirus testing

Today I asked the First Minister about urgently providing Coronavirus testing for every suspected case, as the World Health Organization has called for. The Health Minister has since confirmed Wales does not have the capacity to follow WHO advice. I also asked about repatriating Welsh citizens who are stuck abroad. Heddiw gofynnais i'r Prif Weinidog ddarparu profion Coronafirws ar frys ar gyfer pob achos a amheuir, fel y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi galw amdano. Ers hynny mae'r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau nad oes gan Gymru'r gallu i ddilyn cyngor SIB. Gofynnais hefyd am ddychwelyd dinasyddion o Gymru sy'n sownd dramor.

Posted by Neil McEvoy on Tuesday, March 24, 2020

Canwyd clychau larwm pellach pan honnodd cyfanwerthwr fferyllol, a oedd yn gallu darparu 10,000 o becynnau profi’n gyflym ar gyfer COVID-19, nad oedd Llywodraeth Cymru hyd yn oed wedi bod yn cydnabod eu negeseuon ebost.

Dywedodd Neil McEvoy AC, arweinydd PGC:

“Rydw i wir yn methu â deall strategaeth Llafur i ymladd pandemig COVID-19.

“Mae cyngor Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf: profwch, profwch, profwch. Dyna eiriau Pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd, neb llai. Ac i brofi pob achos a amheuir o coronafirws.

“Ond pan ofynnais i’r Prif Weinidog pam nad oedd hyn yn digwydd yng Nghymru, honnodd fod yn rhaid “dehongli cyngor Sefydliad Iechyd y Byd o fewn cyd-destun lleol.” Ond dwi ddim yn gweld sut mae methu â phrofi yn strategaeth well i Gymru. Ni allaf ddeall sut all Llywodraeth Cymru ystyried eu bod yn gwybod yn well na Sefydliad Iechyd y Byd. Mae gweithwyr proffesiynol meddygol hanfodol yn eistedd gartref oherwydd na allant hyd yn oed brofi aelodau eu teulu, os ydyn nhw'n arddangos symptomau.

“Nid yw gofyn i bobl Cymru aros yn eu cartrefi yn mynd i gael gwared ar Coronafirws. Mae'n prynu amser sydd mawr ei angen arnom ond mae pris i’w dalu am hynny. Ni allwn aros adref am byth a phan ddaw pethau yn ôl i drefn bydd angen i ni fod mewn sefyllfa lle mae ein gallu i gynnal profion wedi cynyddu'n sylfaenol, fel y gallwn brofi pob achos a amheuir ac yna olrhain cysylltiadau pobl sydd wedi'u heintio.

“Mae’n dod yn eithaf amlwg na ddefnyddiodd y llywodraeth y misoedd o rybudd a gafodd i baratoi ar gyfer y pandemig hwb. Mae angen gweithredu nawr.

“Rydym wedi gweld llawer o oddefgarwch hyd yn hyn a pharodrwydd i gydweithredu ac i weithio’n drawsbleidiol. Ond yn y pen draw, mae dyfodol bywydau ein cenedl a’n pobl yn dibynnu ar allu y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i wneud penderfyniadau cywir ac i wneud hynny’n gyflym. Mae angen iddynt newid polisi a phrofi, profi, profi.”