Y Cytundeb Gyda Chymru

Y CYTUNDEB GYDA CHYMRU

Fel dinasyddion Cymru sy'n ceisio ymuno â Senedd Cymru, rydym yn cynnig newid polisïau a gwleidyddiaeth ein gwlad i greu cenedl sy'n rheoli ei thynged ei hun.

Yn yr oes hon o newid mawr rydym yn cynnig yr agenda ganlynol i drawsnewid ein cenedl.

Yn nyddiau cyntaf chweched Senedd Cymru byddwn yn pasio'r diwygiadau mawr canlynol:

YN GYNTAF, dewis cwmni archwilio annibynnol i gynnal archwiliad trylwyr o wastraff, twyll neu lygredd Llywodraeth Cymru. Bydd arbedion a wneir yn cael eu hailgyfeirio i'r GIG.

YN AIL, dewis ymchwilydd annibynnol i gynnal ymchwiliad trylwyr a thryloyw i ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig y Coronafeirws.

YN DRYDYDD, dod â'r holl gyfyngiadau symud i ben yng Nghymru.

O fewn 100 diwrnod cyntaf chweched Senedd Cymru byddwn yn cyhoeddi'r deg bil canlynol fel y gall pobl Cymru eu harchwilio a chraffu arnynt.

1. DEDDF ADFER YN SGIL Y CORONAFEIRWS

Byddwn yn dod â’r holl gyfyngiadau symud i ben yn ffurfiol, yn ymrwymo i beidio â dychwelyd atynt ac yn diddymu pwerau plismona llym. Ymladdir â’r coronafeirws drwy gyfres o fesurau lliniarol yn seiliedig ar ymbellhau cymdeithasol ac amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed. Bydd campfeydd yn cael eu hailddosbarthu fel gwasanaethau hanfodol a byddant yn aros ar agor, yn ogystal ag ysgolion. Byddwn yn gweithredu polisi o dryloywder llawn o'r holl ddata a phenderfyniadau a wneir. Ailnegodi'r cynllun ffyrlo i dalu pobl y mae cyfyngiadau COVID wedi effeithio arnynt i weithio'n ddiogel, wrth barhau i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed. Clustnodi cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer cymorth iechyd meddwl i oedolion a phlant.

2. DEDDF ANNIBYNIAETH YNNI CYMRU

Sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru, gyda'r mwyafrif ohono yn eiddo i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ar gyfer echdynnu cronfeydd nwy profedig Cymru mewn hen feysydd glo mewn modd confensiynol, er mwyn disodli'r defnydd o nwy wedi'i fewnforio o dramor. Bydd cyflenwad ynni rhatach yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith lleol yn ein diwydiannau strategol allweddol, gan gynnwys dur a gweithgynhyrchu. Bydd y biliynau o bunnoedd o refeniw a gynhyrchir yn cael eu defnyddio i greu Cronfa Cyfoeth Sofran ac i sicrhau annibyniaeth ynni hirdymor drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Defnyddio prifysgolion Cymru i fod yn arweinydd byd-eang ym maes technoleg Dal a Storio Carbon. Byddwn yn gwrthod adeiladu unrhyw adweithyddion niwclear ac yn rhoi feto ar unrhyw ymgais i ddeunydd niwclear a gynhyrchir y tu allan i Gymru gael ei storio neu ei ddympio yma. 

3. DEDDF DEMOCRATIAETH UNIONGYRCHOL FODERN

Pecyn chwyldroadol o fesurau democrataidd i greu cyfansoddiad a bil hawliau yng Nghymru. Bydd y cyfansoddiad yn seiliedig ar yr egwyddor o 'ddemocratiaeth uniongyrchol fodern', gan olygu y bydd gan y cyhoedd yr hawl i gyflwyno refferenda cenedlaethol a lleol drwy gasglu llofnodion. Bydd y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy gyfrannol ar gyfer etholiadau yn cael ei mabwysiadu ar gyfer etholiadau cenedlaethol a lleol. Bydd wyth sir yn cymryd lle dau ddeg dau awdurdod lleol Cymru, yn seiliedig i raddau helaeth ar ffiniau siroedd cadwedig Cymru. Bydd gan bob sir brifddinas/tref gydnabyddedig, llywodraethwr a etholwyd yn uniongyrchol a banc cymunedol cydweithredol. Ystyrir bod pob sir yn sofran, ac eithrio pan fo pŵer deddfu wedi'i gadw i Senedd Cymru. Rhaid i Lywydd y Senedd fod yn annibynnol i osgoi rhagfarn wleidyddol. Caiff Prif Weinidog Cymru ei ethol yn uniongyrchol. Astudiaeth ddichonoldeb ar greu tŷ uchaf ar gyfer Senedd Cymru, i'w leoli yng Ngogledd Cymru. Cefnogir newyddiaduraeth dinasyddol i ddarparu darlun mwy amrywiol a chywir o wleidyddiaeth a materion cyfoes. 

4. DEDDF CYNLLUNIO AR GYFER CYMRU

Diwygio Cynlluniau Datblygu Lleol i ddarparu tai lleol fforddiadwy yn seiliedig ar angen lleol yn ogystal â diogelu caeau gwyrdd. Cyflwyno hawl i breswylwyr apelio yn erbyn datblygiadau dadleuol. Sefydlu Byrddau Datblygu Gwledig ar gyfer pob un o siroedd Cymru. Uwchraddio rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru i safon gwibffyrdd, gan gynnwys Gwibffordd Genedlaethol rhwng y Gogledd a'r De. Adfer rheilffyrdd Aberystwyth i Gaerfyrddin ac Afon Wen i Fangor. Un system docynnau ar gyfer teithiau trafnidiaeth gyhoeddus. 

5. DEDDF ATEBOLRWYDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Gweithredu Cyfraith Robbie i wneud dyletswydd gonestrwydd sy'n gyfreithiol rwymol ar ymarferwyr meddygol ac ar draws y sector cyhoeddus, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn onest yn sgil unrhyw gamgymeriadau neu esgeulustod. Sefydlu Ymchwilwyr Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n annibynnol, heb gyswllt i unrhyw blaid wleidyddol ac yn etholedig, i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gweithredu cofrestr lobïo orfodol, sy'n golygu bod yn rhaid i bob lobïwr corfforaethol gofnodi manylion eu lobïo, ei ddiben, eu cleientiaid a faint o arian a oedd yn gysylltiedig. Bydd y Ddeddf hefyd yn cyflwyno proses o adalw gwleidyddion, fel y bydd yn rhaid i unrhyw wleidydd etholedig y ceir ei fod wedi torri'r gyfraith sefyll etholiad o'r newydd.

6. DEDDF ECONOMI NEWYDD CYMRU

Sefydlu Cyfnewidfa Stoc Cymru ar gyfer rhestru cwmnïau o Gymru sy'n dymuno masnachu cyfranddaliadau cwmnïau'n gyhoeddus. Cronfa Cyfoeth Sofran Cymru i ddatblygu portffolio hirdymor, cynaliadwy o fuddsoddiadau, ar sail Egwyddorion Santiago. Creu wyth banc cymunedol cydweithredol, gyda'r prif ffocws ar fuddsoddi mewn busnesau lleol bach a chanolig sydd eisoes yn bodoli yn ogystal â mentrau masnachol newydd. Ailddiwydiannu Cymru ar gyfer yr 21ain ganrif drwy roi pwyslais ar ddatblygu gweithgynhyrchu cynaliadwy, uwch-dechnolegol i'w allforio. Bydd strategaeth caffael cyhoeddus newydd yn cael ei mabwysiadu i symud tuag at ddyfarnu 100% o wariant cyhoeddus i gwmnïau o Gymru.  

7. DEDDF PLANT CYN ELW

Gwahardd gwneud elw ariannol o blant sy'n derbyn gofal mewn cartrefi gofal. Ni ddylai unrhyw blentyn sy'n agored i niwed fod yn gyfle i gwmnïau preifat sydd wedi'u rheoleiddio'n wael i wneud arian. Rhaid i bob plentyn sy'n cael eu rhoi mewn gofal yng Nghymru aros yng Nghymru. Lleihau nifer y plant sy'n cael eu mabwysiadu ac mewn gofal yn ddiogel drwy gefnogi teuluoedd drwy ddull sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth o effaith trawma, gydag ymyrraeth gynnar ac eiriolaeth. Sefydlu ymchwiliad i'r ffordd y mae Gwasanaethau Plant yn gweithredu yng Nghymru. CAFCASS Cymru i gydnabod dieithrio plentyn oddi wrth riant, a gweithredu arno. 

8. DEDDF TYFU I GYMRU

Sefydlu Comisiwn Amaethyddiaeth i ymgynghori â'r cymunedau ffermio a physgota ar y ffordd orau o sicrhau bod mwy o fwyd yn cael ei dyfu, ei ddal a'i fwyta yng Nghymru. Bydd gwelliannau amgylcheddol yn cael eu harwain gan y gymuned ffermio ac ni fyddant yn cael eu gorfodi arnynt o bell. Bydd gwybodaeth ac arbenigedd ffermwyr, fel gwarcheidwaid tir Cymru, yn cael ei barchu a'i roi ar waith. Rhoddir pwyslais ar ddyfodol ffermio fel gyrfa a ffordd o fyw. Byddwn yn cyfreithloni'r defnydd meddyginiaethol o ganabis a chanabinoidau drwy Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, gyda'r holl feddyginiaethau sy'n seiliedig ar ganabis yn cael eu tyfu a'u cynhyrchu yma yng Nghymru.

9. DEDDF DATHLU DIWYLLIANT CYMRU

Sefydlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc, gyda diwrnod i ffwrdd ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus a phlant ysgol yng Nghymru. Annog cwmnïau sector preifat i wneud yr un peth. Ariannu gorymdeithiau a dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer pob sir yng Nghymru. Creu 'Pasbort Diwylliant' Cymreig o leoedd hanesyddol yng Nghymru, gyda chydnabyddiaeth i'r rhai sy'n ymweld, gan dderbyn 'stamp' ar bob safle. Dosbarthiadau trochi a hyfforddiant Cymraeg am ddim. Deddf Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd i ddwyn ynghyd yr holl feysydd deddfwriaethol presennol i roi eglurder cyfreithiol diamwys yn y dyfodol.

10. DEDDF CYFIAWNDER TAI

Pecyn o fesurau i roi diwedd ar anghyfiawnderau ym maes tai yng Nghymru. Byddwn yn ymrwymo i bolisi 'tai yn gyntaf' i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a chau'r bwlch cyfreithiol o ran ail gartrefi, lle caiff ail gartrefi eu hailddosbarthu fel busnesau er mwyn osgoi trethiant lleol. Bydd y pecyn hefyd yn cyflwyno cap blynyddol ar godi Tâl Gwasanaeth ar gyfer lesddeiliaid, yn gysylltiedig â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, ac yn ymrwymo i beidio â rhoi contractau adeiladu i ddatblygwyr tan eu bod wedi adnewyddu'r cladin tân peryglus mewn datblygiadau blaenorol. Cyflwyno cynllun Hawl i Brynu newydd ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol, gyda'r holl refeniw yn cael ei glustnodi i adeiladu tai cymdeithasol o safon uwch. Gosod targedau gorfodol ar awdurdodau lleol i atgyweirio eiddo gwag hirdymor. Gwahardd ailenwi eiddo sydd ag enwau Cymraeg i ddiogelu diwylliant Cymru. Gwarant y bydd pob cyn-filwr yn cael blaenoriaeth ar gyfer tai cyhoeddus a gofal iechyd.

Gan geisio mandad gan ddinasyddion Cymru, rydym drwy hyn yn llofnodi'r Cytundeb hwn gyda Chymru.

Ymunwch