Defnyddiwch bwerau i atal perchnogion tai haf rhag torri mesurau arbennig i daclo Coronafeirws

Mae Neil McEvoy AC, Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru wedi anfon y llythyr canlynol at arweinwyr Cynghorau a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yng Nghymru

Welsh street with two pedestrians

Annwyl gydweithwyr,

Rwy'n gobeithio bod eich holl anwyliaid yn cadw’n iach.

Ysgrifennaf yn ffurfiol fel Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru (PGC) i fynegi siom ddifrifol am yr hyn sy’n ymddangos fel diffyg gweithredu rhagweithiol i atal pobl rhag teithio i dai haf y penwythnos hwn.

A allech chi egluro diffyg presenoldeb yr heddlu ar y pontydd sy'n cysylltu Ynys Mon â’r tir mawr, os yw'r adroddiadau a gefais yn gywir? Ydy'r heddlu wrth y pontydd nawr? Pa sgyrsiau rhagweithiol â gynhaliwyd rhwng swyddogion Cyngor Gwynedd, Môn, Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch atal pobl rhag teithio i’w tai haf? Roeddem i gyd yn gwybod bod y penwythnos hwn ar y gorwel.

Beth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd wrth i mi anfon yr ebost hwn?

Dylid cymryd y camau cyfreithiol mwyaf difrifol posibl yn erbyn y rhai sydd wedi teithio'n ddi-hid ar yr adeg hon. Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud fel heddlu ac awdurdodau lleol?

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru eisoes wedi pasio deddfwriaeth frys i roi pwerau digynsail i atal y dicter presennol ac i amddiffyn ein poblogaethau lleol yng Nghymru rhag y rhai sy'n anwybyddu'r mesurau arbennig hyn mewn ffordd mor ddi-hid. Pleidleisiais dros y ddeddfwriaeth honno.

Ond rhaid gorfodi'r deddfau hynny. A oes gan Blaid Genedlaethol Cymru eich cefnogaeth ddiwyro i amddiffyn ein cymunedau yn rhagweithiol er mwyn amddiffyn ein hysbytai rhag cael eu llethu ac atal y firws rhag lledaenu'n ddiangen? Neu a fyddwch chi'n caniatáu i'n cymunedau gael eu goresgyn unwaith eto gan ddarpar gludwyr y firws?

Neil McEvoy AC
Arweinydd PGC