PGC yn Galw ar Gynghorau i Weithredu i Amddiffyn Cymunedau

Dywedodd Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, Neil McEvoy, yng ngwyneb methiant Llywodraeth Cymru i weithredu, y dylai Cynghorau Sir weithredu eu hunain ar fyrder i amddiffyn cymunedau lleol yng Nghymru.

Image of a caravan park

Dywedodd Neil McEvoy AC:

“Y penwythnos hwn mae Llywodraeth Cymru wedi peryglu sawl ardal yng Nghymru oherwydd eu diffyg gweithredu. Mae lleoedd fel Gwynedd wedi cael eu boddi gan dwristiaid, ac mae'n debyg y bydd rhai ohonyn nhw'n cario'r firws ac yn ei basio ymlaen trwy'r arwynebau maen nhw'n eu cyffwrdd a'r bobl maen nhw'n mynd yn agos atynt.

 

"Dylai Awdurdodau Lleol weithredu ar unwaith a chau gwersylloedd gwyliau, ar sail pryderon iechyd y cyhoedd. Yn lle aros am ganiatâd gan Lundain neu yn wir Caerdydd, mae angen i arweinwyr y Cyngohorau weithredu i amddiffyn eu cymunedau eu hunain. Mae gan Lywodraeth Leol y pwerau eisoes i adolygu a dirymu trwyddedau os nad yw busnesau'n cydweithredu, trwy Ddeddf Drwyddedu 2003.

"Mae gwasanaethau iechyd yr Eidal a Sbaen ar eu gliniau gyda staff yn gorfod dewis pwy fydd yn byw neu farw. Mae gennym gyfle o hyd i osgoi sefyllfa o'r fath yma. Rhaid i ni weithredu nawr.”

Dywedodd y Cynghorydd Sir o Wynedd, Dylan Bullard, sy'n cynrychioli Pwllheli:

“Rwy’n credu ei bod yn warthus bod ein hawdurdodau lleol a’n llywodraethau wedi bod mor araf yn gweithredu. Gadawyd cymunedau lleol i roi pwysau ar wersylloedd gwyliau eu hunain. Dylem gau'r safleoedd hyn er mwyn amddiffyn iechyd ein cymunedau lleol.

"Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu i fynnu bod cyfarfod brys yn cael ei gynnull i adolygu trwyddedau gyda'r bwriad o'u dirymu neu eu hatal dros dro ar sail iechyd y cyhoedd."