Mae Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru (PGC), Neil McEvoy AC, wedi cyflwyno cynnig i Bwyllgor Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am ailddechrau busnes wythnosol yn y Senedd.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf dim ond unwaith yn unig y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyfarfod, a hynny ar-lein am ddim ond ychydig oriau, i glywed datganiadau, heb gynnig unrhyw ffordd i ACau gyflwyno cwestiynau llafar ffurfiol. Yn y cyfamser, mae'r seneddau yng Nghaeredin a Llundain wedi dechrau cynnal busnes arferol.
Dywedodd Neil McEvoy AC,
“Cymerwyd y penderfyniad i gau’r Senedd gan ddefnyddio Rheol Sefydlog 34.18, sy’n seiliedig ar bryderon iechyd y cyhoedd. Dyma oedd y peth iawn i'w wneud ar y pryd ond mae'r sefyllfa bellach wedi newid.
“Rydyn ni nawr yn cwrdd trwy gyfarfodydd rhithwir, sy'n golygu nad oes unrhyw risgiau iechyd. Felly nid yw'r rheswm a roddir dros gyfyngu busnes y Cynulliad yn dal dŵr mwyach. Rhaid dychwelyd at fusnes arferol y Cynulliad yn ddi-oed.
“Fel aelod etholedig, rwy’n gofyn am alw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ôl yn llawn, gyda mesurau priodol i amddiffyn iechyd y cyhoedd a chynnal pellter cymdeithasol, gyda’r holl waith craffu arferol a ddaw yn sgîl hynny.
“Bob dydd, mae fy etholwyr ar y rheng flaen yn cysylltu â mi gyda chwynion am ddiffyg cyfarpar diogelwch PPE. Bob dydd, rwy’n darllen am wledydd lle mae profion torfol yn digwydd a lle mae profion cyflym yn cael eu defnyddio i wneud hynny. Pam na all ACau ofyn cwestiynau llafar ffurfiol i Weinidogion am hyn?
“Nid yw PGC wedi cael yr un cyfle i holi’r Prif Weinidog ers i’r Cynulliad ddechrau eistedd yn rhithiol. Mae'r Llywydd wedi blaenoriaethu cwestiynau gan aelodau Cabinet Coronafirws. Ond weithiau mae angen gofyn cwestiynau anodd ynglŷn â'r modd y mae'r Llywodraeth Lafur wedi delio â'r pandemig.
“Mae cymaint o bobl yn ysu am gael dychwelyd i’r gwaith. Mae angen i ni ddangos arweiniad trwy sicrhau bod ein Cynulliad Cenedlaethol yn dychwelyd i batrwm gwaith arferol. Fel Aelodau Cynulliad ni yw deddfwrfa'r genedl a gallwn ddarparu craffu hanfodol. Mae angen i ni fod yn gwneud mwy na chlywed llond llaw o ddatganiadau, heb ffordd deg o holi'r llywodraeth a’u dwyn i gyfrif.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Parry, Arweinydd Grŵp PGC ar Gyngor Caerdydd,
“Cyfarfu Bwrdd PGC a chytunwyd yn unfrydol ar yr alwad i gael ein Senedd yn ôl wrth ei waith. Mae'r Llywydd yn llesteirio cyfleoedd i graffu ar y Llywodraeth ar adeg tyngedfennol. Mae seneddau eraill yn gweithio fel arfer, pam fod ein Senedd ni mwy neu lai ar gau?
“Mae angen i’r cyhoedd wybod pryd y bydd ein senedd genedlaethol yn ailafael yn llawn yn ei waith, yn hytrach na chael ymatebion annelwig gan y Dirprwy Lywydd bod pethau’n cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Busnes.”