Cynghorwyr y Blaid Genedlaethol yn galw am daliadau bonws i dîmau gwaith bwrdeistrefol

Bonus Payment

Mae Grŵp y Blaid Genedlaethol wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn galw am daliadau bonws i weithwyr adrannau gwastraff ac ailgylchu, fel a wnaed gan gynghorau eraill, er mwyn cydnabod eu gwaith trwy gydol argyfwng COFID-19. Mae gweinyddiaeth Plaid Cymru wedi penderfynu peidio â thalu bonws.

Dywedodd Arweinydd y Grŵp, y Cynghorydd Peter Read,

“Tra roeddem ni’n gweithio yn ddiogel yn ein cartrefi, roedd yr hogiau yma'n mynd allan ac yn peryglu eu hunain. Mae staff swyddfa sy'n gweithio o adref yn derbyn mwy yn eu pecynnau cyflog ac yn yr un modd nid yw ond yn deg bod staff ein timau gwaith bwrdeistrefol yn cael eu cydnabod hefyd. Rwy’n siŵr na fyddai staff eraill yn gwarafun y taliad hwn. Nid arian yw'r prif gymhelliant yma mewn gwirionedd, ond yn hytrach y gydnabyddiaeth."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Grŵp y Blaid Genedlaethol, Dylan Bullard,

“Mae’r staff rheng flaen a’r gweithwyr allweddol yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith gwerthfawr. Byddai ychydig o ddiolch ychwanegol gan y Cyngor ar ran pobl Gwynedd yn mynd yn bell. Mae gweithwyr allweddol eraill fel gofalwyr wedi derbyn taliadau bonws haeddiannol iawn ac rwyf am i'n staff dderbyn yr un peth.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Grŵp y Blaid Genedlaethol,

“Rydym yn ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor i alw arno i ddangos ei ddiolchgarwch i staff trwy dalu bonws. Mewn cyfnod anodd iawn, gwnaeth ein staff gyfraniad aruthrol. Rydym yn galw ar Grŵp Plaid Cymru i gydnabod hyn."