Gohirio lansiad PGC tan bod risg Coronafeirws wedi pasio

Image of a woman wearing a face mask

Datganiad ar ran bwrdd rheoli PGC

Heddiw, y 12fed o Fawrth 2020, penderfynodd bwrdd rheoli PGC ohirio lansiad arfaethedig Plaid Genedlaethol Cymru, a oedd i fod i’w gynnal ar y 3ydd o Ebrill yng Nghaerdydd.

Mae'r bwrdd wedi bod yn dilyn y sefyllfa yn agos iawn. Yn yr Eidal mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan sefyllfa o bandemig yn y wlad. Mae Llywodraeth yr Eidal wedi cau bron pob siop, ac eithrio siopau bwyd a fferyllfeydd, tra bod digwyddiadau chwaraeon mawr wedi’u hatal. Yn Nenmarc, mae’r Llywodraeth wedi annog gohirio digwyddiadau gyda mwy na 100 o bobl ac wedi cadarnhau y bydd pob ysgol a phrifysgol yn cau.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ganiatáu torfeydd mawr o bobl i ymgasglu, fel y cadarnhawyd yn ddiweddar gan Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Lloegr.

Fel plaid rydym wedi dewis dilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n galw am “weithredu brys a chadarn” i atal a rheoli’r achosion, yn enwedig gan fod 19 achos o Coronafeirws erbyn hyn wedi’u cadarnhau yng Nghymru, gyda’r trosglwyddiad cyntaf wedi’i gadarnhau o fewn y gymuned.

Roedd mwy na 100 o bobl eisoes wedi cofrestru ar gyfer y lansiad. Roedd y bwrdd o'r farn felly ei bod yn debygol iawn y byddem yn cyrraedd cyfanswm o 250 ac yn llenwi’r lleoliad. Roedd llawer o'r rhai a oedd yn bwriadu mynychu yn oedrannus, ac mae gan rai ohonynt gyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i ddiogelu iechyd pobl o ddifrif ac rydym hefyd yn cymryd ein cyfrifoldeb tuag at ein gweithwyr iechyd proffesiynol o ddifrif, sy'n debygol o gael eu llethu ag achosion o Coronafeirws yn ystod yr wythnosau nesaf.