O hyn ymlaen bydd y WNP yn cael ei alw'n Propel, gyda'r blaid yn dychwelyd i'w henw gwreiddiol.
Dywedodd arweinydd Propel, Neil McEvoy AS:
“Bu anghydfod ers amser maith ynghylch enw’r blaid ac felly mae’r Bwrdd wedi penderfynu dychwelyd i’n henw gwreiddiol, sef Propel.
“Berf yw propel, sef gair a ddefnyddir i ddisgrifio gweithredu. Ac mae'r ferf 'propel' yn golygu gyrru rhywbeth ymlaen, yn aml gyda llawer o rym. Dyma’r gair perffaith i ddisgrifio ein plaid. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu a byddwn yn ceisio gyrru Cymru ymlaen yn yr etholiadau ym mis Mai, wrth anelu i ennill ein seddi cyntaf o dan faner Propel.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?