HAPPY DONKEY HILL’? ‘NAMELESS CWM’? DIM DIOLCH.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod enwau lleoedd Cymraeg yn hardd ac y dylem wneud popeth a allwn i ddiogelu ein hiaith fyw.
Rydym yn sefyll dros Cwm Cneifion. Rydyn ni'n sefyll dros Faerdre Fach. Safwn dros beidio â phylu ein diwylliant ein hunain er hwylustod twristiaid gan fod gormod o'n henwau brodorol eisoes wedi'u diddymu.
Galwn ar Gyngor Gwynedd i weithredu'n lleol drwy gynyddu'n sylweddol y ffi am ailenwi eiddo (sef dim ond £55 ar hyn o bryd), nes bod deddfwriaeth genedlaethol yn cael ei chyflwyno yn Senedd Cymru i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru.
Ni safwn yn segur tra bod rhagorfraint enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu gwerthu’n fargen rad. Gallwn weithredu nawr ac yn wir, rhaid gweithredu nawr.
#GwarchodwnEnwauCymru
Cyflwynir y ddeiseb hon i Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.