Arwr Y Byd Bocsio Steve Robinson Yn Ymuno ’r Blaid Genedlaethol

Mae arwr bocsio Cymru a chyn-Bencampwr Pwysau Plu y byd, Steve Robinson, wedi ymuno â’r Blaid Genedlaethol. Darllenwch fwy

Cynyddu’r ffi am ail-enwi eiddo er mwyn gwarchod enwau lleoedd Cymru

HAPPY DONKEY HILL? NAMELESS CWM? DIM DIOLCH. Mae dau aelod o Blaid Genedlaethol Cymru o Gyngor Gwynedd a Chynghorydd Tref Portmadog WNP wedi lansio ymgyrch i’r ffi ailenwi eiddo yng Ngwynedd gael ei chynyddu’n ddramatig er mwyn amddiffyn enwau lleoedd Cymru. Lansiodd y Cynghorwyr Peter Read, Dylan Bullard a Jason Humphries yr ymgyrch ar ôl i Lywodraeth Cymru Llafur bleidleisio yn erbyn pasio deddfwriaeth genedlaethol i amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Darllenwch fwy

Cynghorwyr y Blaid Genedlaethol yn galw am daliadau bonws i dîmau gwaith bwrdeistrefol

Mae Grŵp y Blaid Genedlaethol wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn galw am daliadau bonws i weithwyr adrannau gwastraff ac ailgylchu, fel a wnaed gan gynghorau eraill, er mwyn cydnabod eu gwaith trwy gydol argyfwng COFID-19. Mae gweinyddiaeth Plaid Cymru wedi penderfynu peidio â thalu bonws. Darllenwch fwy

Meintiau Dosbarth Llai, ysgolion lleol a Chymru Amlieithog, Hyderus

Mae Neil McEvoy, Arweinydd y Blaid Genedlaethol, yn cynnig y dylai dysgu tair iaith o ddiwrnod cyntaf yr ysgol, fod yn norm yng Nghymru. Mae Mr McEvoy wedi cyflwyno tri gwelliant i ddadl Plaid Cymru yn y Senedd ar addysg. Darllenwch fwy

Ail Gynghorydd o Wynedd yn ymuno â'r Blaid Genedlaethol

Mae'r Cynghorydd Peter Read, sy'n cynrychioli ward Abererch, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â‘r Blaid Genedlaethol. Dyma’r ail Gynghorydd o Wynedd i wneud hynny, ar ôl i'r Cynghorydd Dylan Bullard ymuno â'r blaid ym mis Ebrill. Ffurfiwyd y Blaid Genedlaethol ar ddechrau'r flwyddyn ac mae eisoes yn cynnwys saith Cynghorydd mewn tri awdurdod lleol, yn ogystal ag un aelod o'r Senedd (Senedd Cymru). Darllenwch fwy

Cynghorydd o Wynedd yn ymuno â'r Blaid Genedlaethol

Mae Cynghorydd o Wynedd, sy'n cynrychioli ward Gogledd Pwllheli ar Gyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd yn eistedd o hyn ymlaen fel Cynghorydd Y Blaid Genedlaethol. Y Cynghorydd Bullard yw’r aelod etholedig diweddaraf i ymuno â’r blaid ar ôl i’r Cynghorydd Martyn Peters ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot ymuno, yn ogystal â phedwar Cynghorydd ym mhrif ddinas Cymru. Mae arweinydd y blaid, Neil McEvoy hefyd yn eistedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar ran Y Blaid Genedlaethol. Darllenwch fwy

Plaid Genedlaethol Cymru: rhaid Dychwelyd at Fusnes Arferol y Cynulliad yn ddi-oed

Mae Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru (PGC), Neil McEvoy AC, wedi cyflwyno cynnig i Bwyllgor Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am ailddechrau busnes wythnosol yn y Senedd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf dim ond unwaith yn unig y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyfarfod, a hynny ar-lein am ddim ond ychydig oriau, i glywed datganiadau, heb gynnig unrhyw ffordd i ACau gyflwyno cwestiynau llafar ffurfiol. Yn y cyfamser, mae'r seneddau yng Nghaeredin a Llundain wedi dechrau cynnal busnes arferol. Darllenwch fwy

Defnyddiwch bwerau i atal perchnogion tai haf rhag torri mesurau arbennig i daclo Coronafeirws

Mae Neil McEvoy AC, Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru wedi anfon y llythyr canlynol at arweinwyr Cynghorau a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yng Nghymru Annwyl gydweithwyr, Rwy'n gobeithio bod eich holl anwyliaid yn cadw’n iach. Ysgrifennaf yn ffurfiol fel Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru (PGC) i fynegi siom ddifrifol am yr hyn sy’n ymddangos fel diffyg gweithredu rhagweithiol i atal pobl rhag teithio i dai haf y penwythnos hwn. Darllenwch fwy

Mae PGC yn galw am gynnal profion cymunedol brys o'r holl achosion Coronafirws a amheuir

Mae Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru (PGC) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â “gwastraffu” yr amser sydd ganddynt tra bod mesurau arbennig i fynd i’r afael â Coronafeirws mewn grym. Dywedodd Neil McEvoy AC: “Os y byddwn yn dod allan o’r cyfnod hwn yn yr un sefyllfa ag yr aethom iddo, yna byddwn wedi gwastraffu’r amser hwnnw i raddau helaeth. Mae angen i ni ddefnyddio’r amser i gryfhau ein gallu i ddilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd a phrofi pob achos a amheuir o Coronafirws. ” Yn ystod Cyfarfod Llawn o’r Senedd, ar y 24ain o Fawrth cyfaddefodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, nad oedd ganddyn nhw’r gallu i wneud hyn, gan nodi: “Pe bawn i’n dweud mai ein huchelgais yw cyflwyno profion cymunedol ar raddfa eang nawr, mewn gwirionedd ni fyddem yn medru gwneud hynny ... ” Daeth ergyd arall i brofion cymunedol ar raddfa eang pan gyhoeddwyd bod cytundeb Llywodraeth Cymru â chwmni preifat am 5,000 o brofion y dydd wedi bod yn aflwyddianus. Darllenwch fwy

Cynghorydd o Gastell-nedd Port Talbot yn ymuno â Phlaid Genedlaethol Cymru

Mae’r Cynghorydd Martyn Peters o Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymuno â Phlaid Genedlaethol Cymru (PGC) gan nodi bod angen “meddwl o’r newydd ar Gymru i’w symud ymlaen”. Mae'r Cynghorydd Peters yn cynrychioli ward Dyffryn ar Gyngor CNPT ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Dyffryn Clydach. Mae dyfodiad y Cynghorydd Peters yn golygu bod gan y blaid newydd gynrychiolaeth ar ddau awdurdod lleol, gydag Aelod Cynulliad PGC hefyd yn cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru. Darllenwch fwy