Cyhoeddi Tim Thomas yn Gadeirydd Newydd Propel
Etholwyd y Cyng. Tim Thomas yn Gadeirydd Propel, ar ôl cael ei enwebu i'r swydd gan Arweinydd Propel, Neil McEvoy.
Mae'r Cynghorydd Thomas yn olynu Gretta Marshall, a gyhoeddodd yn ôl ym mis Medi y byddai'n camu i lawr yn y flwyddyn newydd.
Darllenwch fwy
Ailenwi Plaid y Genedl Gymreig (WNP) yn Propel
O hyn ymlaen bydd y WNP yn cael ei alw'n Propel, gyda'r blaid yn dychwelyd i'w henw gwreiddiol.
Darllenwch fwy
Ymunodd Cynghorydd Plaid Cymru a Propel Cymru
Mae Cynghorydd Tim Thomas wedi gadael Plaid Cymru, ac wedi ymuno a Propel.
Darllenwch fwy
Mae ffigurau newydd yn datgelu cynnydd “ysgytwol” i amseroedd aros cleifion yn ystod y pandemig
Mae Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, Neil McEvoy AS, wedi galw'r ystadegau newydd am gleifion sy'n aros yng Nghymru yn rhai “ysgytwol”.
Mewn ymateb ysgrifenedig ffurfiol i Mr McEvoy, datgelodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos am driniaeth yng Nghymru wedi cynyddu o 28,294 i 119,830 rhwng Mis Mawrth 2020 a diwedd Awst, cynnydd o 324%.
Darllenwch fwy
Y Llywydd yn gwrthod gwelliannau ar fynd i'r afael â hiliaeth
Mae’r Llywydd, Elin Jones, wedi ymwrthod â phedwar gwelliant i ddadl ar ddelio â hiliaeth ychydig oriau cyn bod disgwyl iddynt gael eu trafod.
Galwodd y gwelliannau am: ddiweddaru asesiadau effaith cydraddoldeb hiliol; adolygiad ar weithredu argymhellion Adolygiad Lammy yng ngharchardai Cymru; annog Llywodraeth y DU i ychwanegu modiwl ar hil a dosbarth at ymchwiliad Tŵr Grenfell; dalu sylw i'r gwahaniaethu ar sail hil a brofwyd gan y rhai fu'n dioddef oherwydd sgandal Windrush yng Nghymru, gan alw ar Lywodraeth y DU i dalu iawndal yn gynt.
Darllenwch fwy
Rhaid I Asesiad Effaith Allweddol O Fwd Niwclear Fod Yn Annibynnol
Yn dilyn cyhoeddiad gan EDF yn cadarnhau y byddant yn cynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol cyn carthu a rhyddhau gwaddod o orsaf ynni niwclear Hinkley Point, mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryderon ynghylch y ffaith na fydd y profion hynny’n annibynnol.
Darllenwch fwy
Arwr Y Byd Bocsio Steve Robinson Yn Ymuno ’r Blaid Genedlaethol
Mae arwr bocsio Cymru a chyn-Bencampwr Pwysau Plu y byd, Steve Robinson, wedi ymuno â’r Blaid Genedlaethol.
Darllenwch fwy
Cynyddu’r ffi am ail-enwi eiddo er mwyn gwarchod enwau lleoedd Cymru
HAPPY DONKEY HILL? NAMELESS CWM? DIM DIOLCH.
Mae dau aelod o Blaid Genedlaethol Cymru o Gyngor Gwynedd a Chynghorydd Tref Portmadog WNP wedi lansio ymgyrch i’r ffi ailenwi eiddo yng Ngwynedd gael ei chynyddu’n ddramatig er mwyn amddiffyn enwau lleoedd Cymru.
Lansiodd y Cynghorwyr Peter Read, Dylan Bullard a Jason Humphries yr ymgyrch ar ôl i Lywodraeth Cymru Llafur bleidleisio yn erbyn pasio deddfwriaeth genedlaethol i amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol Cymru.
Darllenwch fwy
Cynghorwyr y Blaid Genedlaethol yn galw am daliadau bonws i dîmau gwaith bwrdeistrefol
Mae Grŵp y Blaid Genedlaethol wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn galw am daliadau bonws i weithwyr adrannau gwastraff ac ailgylchu, fel a wnaed gan gynghorau eraill, er mwyn cydnabod eu gwaith trwy gydol argyfwng COFID-19. Mae gweinyddiaeth Plaid Cymru wedi penderfynu peidio â thalu bonws.
Darllenwch fwy
Meintiau Dosbarth Llai, ysgolion lleol a Chymru Amlieithog, Hyderus
Mae Neil McEvoy, Arweinydd y Blaid Genedlaethol, yn cynnig y dylai dysgu tair iaith o ddiwrnod cyntaf yr ysgol, fod yn norm yng Nghymru.
Mae Mr McEvoy wedi cyflwyno tri gwelliant i ddadl Plaid Cymru yn y Senedd ar addysg.
Darllenwch fwy