Propel yn Cefnogi Ffermwyr Cymru

Mae Propel, plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, dan arweiniad y Cynghorydd Neil McEvoy o Gaerdydd yn anfon ei chefnogaeth ac yn cydsefyll gyda phawb sy’n mynychu’r brotest heddiw. Darllenwch fwy

ADFER TOMENNI GLO CWM SIRHYWI: PROPEL YN GALW CYFARFOD CYMUNEDOL

Mae PROPEL, plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, wedi galw cyfarfod cymunedol sydd i’w gynnal am 6yh nos Lun 26 Chwefror yn nhafarn y Piccadilly Inn, Caerffili, mewn ymateb i anfodlonrwydd cynyddol ynghylch y bwriad i adfer tomenni glo yng Nghwm Sirhywi. Darllenwch fwy

Adfer Tomen Glo Bedwas

Ar hyn o bryd mae cynllun yn cael ei ystyried i “adfer” tomenni Bedwas trwy ail-gloddio’r tomenni glo gan gwmni preifat. Mae Propel, plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, yn credu fod hyn ymhell o fod er budd y cyhoedd oherwydd yr effaith andwyol, nid yn unig ar brydferthwch Cwm Sirhywi a’r ardaloedd cyfagos, ond hefyd ar yr economi leol ac iechyd ei thrigolion. Darllenwch fwy

Propel yn Cefnogi Cadoediad yn Gaza

      Dywedodd Arweinydd Propel Neil McEvoy, “Mae miloedd o blant wedi’u lladd yn Gaza a bydd mwy yn marw oni bai bod cadoediad ar unwaith ynghyd ag ymgyrch ddyngarol i achub bywydau. Darllenwch fwy

Cyflwyno deiseb CHWARAE TEG i Drelái yng nghyfarfod Cyngor Caerdydd

BYDD y Cynghorydd Propel, Neil McEvoy, yn cyflwyno deiseb a gefnogir gan dros 200 o drigolion Trelái mewn cyfarfod o’r cyngor llawn a gynhelir heno [Dydd Iau 26 Hydref], yn galw ar Gyngor Caerdydd i adnewyddu’r maes chwarae ym Mharc y Felin (Pafiliwn Bowlio), ar Heol Plymouthwood ac i ganiatáu i staff gloi'r giât er diogelwch y plant yn y feithrinfa leol. Darllenwch fwy

PARCHWCH FENYWOD A MERCHED MEDD PROPEL AR DDIWRNOD RHYNGWLADOL Y MENYWOD

  I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae Propel wedi amlinellu ei safbwynt ar yr angen i ddiogelu hawliau menywod a merched. Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r egwyddor o fannau un rhyw, yr hawl i chwaraeon un rhyw er mwyn sicrhau tegwch a diogelwch ar bob lefel o gystadleuaeth a’r hawl i dderbyn gwasanaethau personol fel ymolchi, gwisgo, a chwnsela gan fenywod. Daw hyn wrth i Lywodraeth Llafur yng Nghymru ddatgelu cynlluniau yn ddiweddar o’u bwriad i’w gwneud yn haws i unigolyn newid eu rhyw yn gyfreithlon, yn debyg i ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar gan lywodraeth yr Alban. Darllenwch fwy

Propel yn galw am reolau llym ar lobïo corfforaethol

Mae Propel, plaid wleidyddol newydd Cymru, wedi datgan y byddai yn gosod rheolaeth lem ar lobïo. Mae Cytundeb â Chymru Propel yn cynnwys Deddf Atebolrwydd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda rheolau ar lobïo corfforaethol yn elfen allweddol. Golyga’r Ddeddf bydd Propel yn bwriadu: “Deddfu bod cofrestr lobïo orfodol, sy’n golygu bydd rhaid i bob lobïwr corfforaethol gofnodi manylion ei lobïo, ei bwrpas, ei gleientiaid a faint o arian oedd ynglŷn â’r gwaith.” Darllenwch fwy

Y cyn-löwr Jeff Gregory i ymladd sedd y Rhondda ar ran Propel

Mae’r cyn-löwr, Jeff Gregory, wedi’i ddewis gan Propel i ymladd sedd y Rhondda yn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai. Cafodd Jeff ei eni a'i fagu yn y Rhondda ac roedd yn löwr trydedd genhedlaeth, cyn i'r Ceidwadwyr a Llafur gau y pyllau. Wrth ymateb i gael ei ddewis fel ymgeisydd, dywedodd Jeff: “Mae'r Rhondda yn lle unigryw – does unman arall yn y byd sy’n debyg iddo. Mae'r bobl yma yn wydn, yn gweithio'n galed ac yn falch. Ond mae’r gwleidyddion wedi siomi’r Rhondda. Ni yw’r cwm anghofiedig. Cafodd y Senedd ei chreu i wella bywydau pobl Cymru, ond mae tlodi ac amddifadedd aruthrol yma o hyd. Darllenwch fwy

Propel yn Dewis Ymgeiswyr Rhanbarthol ar gyfer Gorllewin De Cymru

Mae Propel wedi dewis pedwar ymgeisydd i ymladd rhanbarth Gorllewin De Cymru yn etholiadau’r Senedd ar 6 Mai. Y prif ymgeisydd yw Cadeirydd Propel ac Arweinydd Grŵp Propel Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Tim Thomas.   Dr Gail John sydd yn ail ar y rhestr, gyda James Henton, myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Gastell-nedd, yn drydydd a'r ymgyrchydd cymunedol Lee Fenton yn y pedwerydd safle. Darllenwch fwy

Cofrestru Propel yn swyddogol fel plaid wleidyddol

Mae plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, Propel, wedi’i chofrestru’n swyddogol gyda’r Comisiwn Etholiadol. Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd ymgeiswyr y blaid yn sefyll yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai o dan faner Propel. Darllenwch fwy